Lansio hyb codi sbwriel newydd yn Nhyddewi gyda digwyddiad glanhau cymunedol y gwanwyn
Roedd Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn dathlu lansio hyb codi sbwriel Cadwch Gymru’n Daclus gyda digwyddiad codi sbwriel cymunedol yn Nhyddewi yr wythnos diwethaf.
Gyda chymorth 17 o wirfoddolwyr, gan gynnwys saith myfyriwr o Eco Bwyllgor Campws Non Ysgol Penrhyn Dewi, casglwyd gwerth wyth bag o sbwriel.
Mae’r hyb newydd yn yr atyniad sy’n cael ei redeg gan yr Awdurdod yn rhan o gynllun Caru Cymru Cadwch Gymru’n Daclus, sy’n ceisio ysbrydoli unigolion, grwpiau cymunedol a busnesau i fynd ati i ofalu am eu hamgylchedd lleol.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a oedd yn cymryd rhan yn y digwyddiad lansio:
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi sefydlu’r hyb newydd hwn, a fydd yn ei gwneud hi’n haws nag erioed i gymryd camau cadarnhaol yn erbyn sbwriel yn y gymuned leol.”
Mae dros gant o hybiau wedi cael eu sefydlu ledled y wlad erbyn hyn, sy’n caniatáu i aelodau o’r gymuned fenthyg offer casglu sbwriel, gan gynnwys festiau llachar, bagiau sbwriel a chasglwyr sbwriel am ddim.
Dywedodd David Rowe, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus ar gyfer Sir Benfro:
“Mae’n wych cael agor yr hyb codi sbwriel cyntaf yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi. Hoffwn ddiolch i holl staff y Ganolfan Ymwelwyr a disgyblion Campws Non Ysgol Penrhyn Dewi am roi o’u hamser a’u cefnogaeth yr wythnos ddiwethaf.
“Bydd yr hyb newydd yn rhoi cyfle i unigolion, grwpiau a busnesau fenthyg offer a mynd i’r afael â sbwriel yn eu cymuned leol. Bydd yr hyb yn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl godi sbwriel yn ardal Sir Benfro, gan ddarparu codwyr sbwriel, cylchoedd, festiau llachar a bagiau bin.”
Os hoffech chi helpu i dacluso eich ardal a menthyg offer, cysylltwch ag Oriel y Parc ar 01437 720392 neu anfonwch e-bost at info@orielyparc.co.uk.
I ddod o hyd i’ch Hyb Codi Sbwriel agosaf, ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus.