Lansio prosiect ‘Dalgylch Arddangos Teifi’
Ddydd Gwener 24 Tachwedd, lansiodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) fenter aml-flwyddyn newydd, sef prosiect ‘Dalgylch Arddangos Teifi’. Mae hwn yn brosiect cydweithio ar draws sectorau a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, gyda'r nod o wella'r gwaith o reoli dŵr yn nalgylch afon Teifi. Cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid i nodi lansiad y prosiect, wedi'i gynnull gan Gadeirydd CNC, Syr David Henshaw. Roedd partneriaid allweddol yn bresennol gan gynnwys Ymddiriedolaethau Afonydd, Dŵr Cymru, yr Undebau Ffermio a'r Awdurdodau Lleol.
Mae afon Teifi mewn cyflwr anffafriol ac mae data’n awgrymu bod gollyngiadau o waith trin dŵr gwastraff yn cael effaith sylweddol ar yr afon, yn ogystal â llygredd gwasgaredig o amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac yn sgil etifeddiaeth mwyngloddio. Mae ymchwil diweddar wedi dangos bod stoc eogiaid yn dirywio’n gyflym, ac mae modelu’n rhagweld y gallai’r rhywogaeth gael ei cholli o fewn y deng mlynedd nesaf oni bai bod camau brys yn cael eu cymryd.
Mae gwaith sylweddol eisoes yn mynd rhagddo ledled dalgylch afon Teifi i wella ansawdd dŵr. Mae’r prosiect hwn yn ymwneud â meddwl yn wahanol a defnyddio atebion arloesol i wneud i bethau ddigwydd, gan ganolbwyntio ar sut y gellir dangos gwerth ac ychwanegedd. Y gobaith yw y bydd y gwaith yn nalgylch afon Teifi yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu model ‘arfer gorau’ y gellir ei ailadrodd ar draws dalgylchoedd Cymru gyfan. Bydd y prosiect hwn yn rhan o’r dull cyfannol ehangach i wella ansawdd dŵr ac ecoleg afonol.
Fel aelod o Fwrdd Rheoli Maetholion Teifi, mae Cyngor Sir Benfro yn edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid ar y prosiect hwn.
Rheolir y prosiect gan Jon Goldsworthy a gallwch ddarllen mwy amdano yma: