Llwyddiant yr Wystrys Brodorol yn Nyfrffyrdd Aberdaugleddau

Posted On : 17/03/2025

Ar ôl dros flwyddyn o fagu gofalus, mae miloedd o wystrys brodorol ifanc wedi dychwelyd i Ddyfrffyrdd Aberdaugleddau. Dyma nodi carreg filltir fawr yn y prosiect cadwraeth uchelgeisiol a oedd yn gydweithrediad gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Fe ddechreuodd Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor weithio ar y prosiect ddiwedd 2023, ac ers hynny maent wedi casglu stoc magu o Fae Angle a Burton Ferry a’u meithrin.  Cafodd yr wystrys eu cadw dan amodau priodol, a dan yr amgylchiadau hynny fe wnaethant genhedlu cannoedd ar filoedd o larfau.  Cafodd y larfau bach eu meithrin nes yr oeddent yn barod i setlo ar y cregyn, ac ar y cregyn hynny y mae’r rhan fwyaf ohonynt yn aros wrth dyfu.  Roedd rhai o’r cregyn bylchog yn cynnwys cymaint â 160 o silod wystrys brodorol, ac roedd eu maint yn amrywio rhwng 4mm a 10mm.

Ym mis Chwefror, cafodd oddeutu 200,000 o wystrys bach eu rhyddhau i’r dyfrffordd gan fyfyrwyr Paddle West.  Fe lwyddodd y tîm i symud yr wystrys â llaw i’w safle datblygu mewn dŵr bas, (gyda help Sky y ci, a chymorth achub gan Iard Gychod Rudders).

Ar un adeg roedd yr wystrys brodorol yn niferus yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, ond mae poblogaethau’r wystrys wedi dirywio’n arw o ganlyniad i golli cynefinoedd, llygredd, gor-gynaeafu a chlefydau.

Dywedodd Sarah Mellor, Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, “Mae’r prosiect cydweithredol hwn yn gam mawr ymlaen yn y gwaith o adfer poblogaethau’r wystrys brodorol yng Nghymru.  Efallai bod cael riffiau wystrys brodorol bywiog eto yn ardal Aberdaugleddau yn ymddangos fel breuddwyd, ond mae’r prosiect hwn wedi cyflymu’r broses a gwella ein dealltwriaeth gan ddangos bod gwireddu’r freuddwyd honno yn bosibl.  Bydd gan yr wystrys hyn ran allweddol i’w chwarae yn y gwaith o wella ansawdd dŵr, storio carbon, a chreu cynefin i fywyd môr.”

I gefnogi’r ymdrech gadwraethol, mae rhai o’r cregyn bylchog sydd wedi eu gorchuddio ag wystrys wedi eu rhoi mewn gwestai wystrys yn iard gychod Rudders i gael eu monitro’n fanylach.  Bydd Atlantic Edge Oysters hefyd yn goruchwylio grŵp o’r wystrys ifanc er mwyn asesu eu cyfraddau tyfu.

Bydd yr wystrys yn cael eu monitro a’u olrhain fel rhan o fenter Natur am Byth!  Prosiect Cadwraeth Forol Sir Benfro, sy’n cael ei gynnal gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol gyda chymorth gan Sue Burton, Swyddog ACA Forol Sir Benfro.

Dywedodd Sue, “Er mwyn sicrhau cadwraeth yr wystrys, mae angen cyflenwyr wystrys a phobl i’w magu, ac mae’r prosiect hwn wedi dangos bod modd cyflawni hyn yng Nghymru gydag wystrys brodorol sydd wedi eu magu yma gan arbenigwyr.”

Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Forol Sir Benfro, a Tethys Oysters ym Mae Angle, ac mae’n rhan o Elfen Carbon Glas Rhaglen Arfordir Gwyllt Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro! Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Dirweddau Cymru.

Bydd yr wystrys yn cael eu monitro er mwyn asesu cyfraddau tyfu a goroesi, a bydd hyn yn ein helpu wrth gynnal rhagor o brosiectau cadwraeth yn y dyfodol, a chryfhau adferiad hirdymor y rhywogaethau yn Nyfrffordd Aberdaugleddau.