Mwynhewch dri o ryfeddodau’r gaeaf gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol
Bydd atyniadau ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd i fwynhau hwyl yr ŵyl, dod o hyd i;r anrhegion perffaith a chofleidio hudoliaeth y tymor wrth i’r dyddiau fyrhau ac i'r Nadolig nesáu.
Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys, Castell Caeriw ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn cynnal eu rhaglenni eu hunain o weithgareddau a digwyddiadau tymhorol dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys y cyfle i roi eich rhestr o ddymuniadau i Siôn Corn, gwledd o oleuadau Nadolig a dathliad cynhanesyddol.
Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, mae Blwch Post Pegwn y Gogledd wedi cyrraedd ac mae’n aros am eich negeseuon i Siôn Corn. Gellir casglu ymatebion ar ôl tri diwrnod, ynghyd â syrpreis o weithdy’r corachod. Bydd y gwasanaeth post rhad ac am ddim hwn yn parhau i fod ar gael tan ddydd Mawrth 19 Rhagfyr.
Bydd Llwybr y Corachod hefyd yn cael ei gynnal ar dir Oriel y Parc tan ddydd Gwener 22 Rhagfyr, gan roi cyfle i ymwelwyr ifanc chwilio am weithdai corachod hudolus a chasglu’r anrhegion, cyn cael anrheg Nadolig iddyn nhw eu hunain. Mae cymryd rhan yn y llwybr yn costio £3 i bob plentyn.
Ewch i www.orielyparc.co.uk i gael gwybod am ragor o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd ac i weld yr oriau agor dros y Nadolig.
I’r rheini sy’n teimlo’n llawn cyffro’r Nadolig, mae ‘Tywyn’ Castell Caeriw ar gael o hyd, yn rhad ac am ddim, rhwng 4.30pm a 7.30pm rhwng dydd Gwener a dydd Sul tan 17 Rhagfyr.
Yn ogystal ag effaith weledol syfrdanol y Castell mewn addurniadau Nadolig, gydag arddangosfeydd golau cyfareddol yn yr Ardd Furiog, bydd y digwyddiad eleni’n cynnwys ardal newydd sbon ar gyfer gemau a gweithgareddau ‘tywynnu yn y tywyllwch’ a pherfformiadau cerddorol byw ar benwythnosau. Gelli cael amseroedd perfformiadau a rhagor o wybodaeth yn www.castellcaeriw.com.
Bydd Ystafell De Nest ar agor tan 7.30pm drwy gydol cyfnod ‘Tywyn’ gan weini amrywiaeth flasus o ffefrynnau Nadoligaidd.
Mae disgwyl mawr am Heuldro’r Gaeaf yng Nghastell Henllys. Bydd yn cynnig cyfle i ymwelwyr nodi noson hiraf y flwyddyn gyda chrefftau cynhanesyddol, chwedlau hynafol a chaneuon wrth ymyl y tân, ac mae pob tocyn wedi mynd.
Mae modd gweld manylion holl ddigwyddiadau Awdurdod y Parc Cenedlaethol www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.