Nod y Llwybr Blychau Barddoniaeth yw ysbrydoli pobl i ysgrifennu cerddi eu hunain am fyd natur
Mae blychau barddoniaeth wedi cael eu gosod o amgylch Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i annog pobl i ailgysylltu â natur ac i ysgrifennu eu cerddi eu hunain i rannu eu profiad gyda phobl sy’n mynd heibio.
Mae’r llwybr wedi’i ysbrydoli gan arddangosfa Geiriau Diflanedig, sy’n cael ei harddangos yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi, ac mae’n un o’r gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i annog pobl i fwynhau ychydig funudau yn yr awyr agored ar Arfordir Penfro.
Yn ôl Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:
“Mae ein gwirfoddolwyr Llwybrau a thîm yr oriel wedi bod yn ofalus iawn yn creu ac yn addurno’r naw blwch barddoniaeth, gyda dyluniadau gwych i ddal sylw’r rheini sy’n mwynhau seibiant yn y Parc Cenedlaethol.
“Mae pobl yn cael eu gwahodd i agor y blwch, edrych ar y pad ysgrifennu, darllen beth mae pobl eraill wedi’i nodi, ac ysgrifennu ychydig o linellau am yr adegau maen nhw wedi cael cysylltiad â natur.
“Yna, maen nhw yn ei roi yn ôl yn y blwch er mwyn i’r person nesaf allu mwynhau eu creadigaethau llenyddol, p’un a yw’n swyngan acrostig fel y gwelwch chi yn Y Geiriau Diflanedig neu ychydig o linellau sy’n disgrifio’r hyn rydych chi wedi’i weld neu ei glywed.”
Mae’r blychau barddoniaeth i’w gweld yng Nghastell Henllys, Sychpant, Pen-caer, Oriel y Parc, Maes Awyr Tyddewi, Haroldston Chins, Sain Ffraid, Castell Caeriw a Skrinkle Haven.
Bydd yr arddangosfa deithiol Geiriau Diflanedig, sy’n cael ei threfnu gan Compton Verney, gyda Hamish Hamilton a Penguin Books, yn cyflwyno gwaith celf gwreiddiol Jackie Morris a cherddi Cymraeg gan Mererid Hopwood a cherddi Saesneg gan Robert Macfarlane, am y tro cyntaf erioed.
Mae’r cydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Cymru ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Eryri yn golygu bod geiriau a dyfrlliwiau’r llyfrau yn cael eu harddangos yn yr Ysgwrn yng Ngwynedd ac yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Sir Benfro.
I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa Geiriau Diflanedig a gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yn Oriel y Parc, ewch i dudalen yr arrdangosfa.