Oriel y Parc yn agor ei drysau i dangnefedd a llonyddwch
Ddiwedd mis Mawrth, bydd arddangosfa newydd o'r enw Tangnefedd Rhyngom yn agor yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, Tyddewi. Mae’r arddangosfa gan Jackie Morris ac Elly Morgan yn gwahodd ymwelwyr i edrych ar themâu sy’n ymwneud â thangnefedd ac i oedi i feddwl a chysylltu gyda harddwch a llonyddwch y byd o’u hamgylch.
Mae’r arddangosfa yn dangos sut mae dau artist unigryw yn defnyddio celf i ymateb i dangnefedd. Mae Jackie Morris yn ddarlunydd, artist, ac awdur, ac mae hi’n adnabyddus am y llyfrau The Lost Words / Y Geiriau Diflanedig a The Lost Spells. Bydd hi’n arddangos cyfres o beintiadau o golomennod ac yn defnyddio ei harddull unigryw i gyfleu beth yw grym heddwch. Mae Elly Morgan ar y llaw arall yn adnabyddus am ei gwaith seramig, ac fe wnaeth hi ymateb i’r thema drwy greu colomennod seramig a oedd wedi eu hysbrydoli’n rhannol gan dirweddau naturiol Sir Benfro.
Dywedodd Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:
“Mae gwaith y ddwy yn dod ynghyd i greu casgliad ysbrydoledig am dangnefedd, ein cysylltiad â’r byd o’n hamgylch, yn ogystal â phwysigrwydd cymryd amser i feddwl mewn byd sy’n aml yn symud yn rhy gyflym. Mae’r darnau yn rhoi cyfle i ni arafu a meddwl o ddifri am dangnefedd a heddwch, nid fel cysyniad, ond fel rhywbeth y gallwn ni ei brofi a’i rannu. Mae’r arddangosfa yn ein gwahodd ni i oedi ac i feddwl am ein cysylltiad ni gyda’r byd o’n hamgylch ac mae’n ein hatgoffa o bwysigrwydd y cyfnodau tawel yn ein bywydau prysur.”
I ddathlu Diwrnod Barddoniaeth y Byd bydd Jackie Morris yn cynnal digwyddiad arbennig, Geiriau Tangnefedd gyda Jackie Morris rhwng 2pm a 3pm ddydd Sadwrn 22 Mawrth. Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim yn cynnwys sgwrs a sesiwn holi ac ateb a fydd yn gyfle i chi ddysgu rhagor am yr arddangosfa a’r themâu sy’n ysbrydoli Jackie. Yn dilyn y sgwrs, bydd y mynychwyr yn cael cyfle i edrych ar ei gwaith. Bydd casgliad o lyfrau Jackie, gan gynnwys Y Geiriau Diflanedig / The Lost Words, a The Lost Spells ar gael i’w prynu, a bydd copïau wedi eu harwyddo hefyd ar gael.
Yna, rhwng 11am a 3pm ddydd Sul 23 Mawrth bydd Elly Morgan yn arwain gweithdy i’r teulu cyfan sef Adenydd Tangnefedd. Mae croeso i bobl o bob oed ddod i’r sesiynau galw heibio a chyfrannu at ddarn o waith cydweithredol sy’n cael ei greu gyda deunyddiau ailgylchu a phaent acrylig. Dyma gyfle i ymwelwyr ymateb i heddwch mewn ffordd greadigol a chyfrannu at yr arddangosfa.
Bydd Tangnefedd Rhyngom gan Jackie Morris ac Elly Morgan yn cael ei arddangos yn Oriel y Parc tan ddydd Sul 27 Ebrill.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl arddangosfeydd a digwyddiadau yn Oriel y Parc, ewch i www.orielyparc.co.uk.
