Oriel y Parc yn dathlu bioamrywiaeth gyda #1000 o gardiau post
Ym mis Tachwedd eleni, bydd arddangosfa newydd yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yn Nhyddewi sy’n dathlu’r bioamrywiaeth a ddaw pan fydd tir yn cael ei reoli’n foesegol er budd natur.
Mae prosiect #1000 Cerdyn Post gan Liza Adamczewski wedi’i ysbrydoli gan brofiad yr artist ei hun o ddad-ddofi tir ar ei fferm 60 erw yn Sir Benfro.
Mae trydar cerdyn post yn ddyddiol, ac arno greadur neu blanhigyn y mae Liza wedi’i ganfod ar ei fferm ynghyd â gwybodaeth hawdd ei deall, yn rhan annatod o’r darn hwn o waith.
Ar ôl cael MA o Goleg Celf Brenhinol Llundain, mae Liza wedi mwynhau gyrfa fywiog gyda chomisiynau sy’n cwmpasu’r byd masnachol ac artistig, yn cynnwys Penguin Publishing a The Sunday Times yn ogystal ag arddangosfeydd yn Llundain, Suffolk, Bryste a Chaeredin.
Daeth Liza i Sir Benfro oherwydd ei hangerdd dros gadwraeth. Yr angerdd hwn sy’n sail i’w chasgliad newydd o waith.
Dywedodd Rheolwr Oriel y Parc, Claire Bates: “Mae’r darnau hardd hyn yn ein hatgoffa o ba mor dda mae natur yn ymateb pan gaiff ei chefnogi’n briodol.
“Mae bioamrywiaeth cyfoethog tirwedd Sir Benfro wedi ysbrydoli llawer o artistiaid dros y canrifoedd, a bydd yn fraint cynnal arddangosfa sy’n ein hannog i ddathlu’r natur ar ein carreg drws”.
Bydd #1000 o Gardiau Post yn cael eu harddangos yn Oriel y Parc rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Chwefror 2021.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect #1000 o Gardiau Post ewch i wefan Liza Adamczewski yn www.lizaadamczewski.com.
I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn a digwyddiadau eraill, ewch i www.orielyparc.com neu ffoniwch 01437 720392.