Parêd y Ddraig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi
Os ydych chi’n chwilio am ffordd hwyliog o ymuno â’r dathliadau Dydd Gŵyl Dewi eleni, ewch i ddinas leiaf Prydain ddydd Sadwrn 2 Mawrth ar gyfer gorymdaith flynyddol Parêd y Ddraig.
Bydd yr orymdaith, sydd wedi cael ei threfnu gan Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol, yn cychwyn am 11am. Fel rhan o’r digwyddiad, bydd disgyblion o ysgolion lleol ac aelodau gofal yn y gymuned, ynghyd â’u dreigiau disglair, yn cerdded i lawr y Stryd Fawr i gyfeiliant Samba Doc – Band Samba Cymunedol Sir Benfro.
Bydd Maer Tyddewi hefyd yn ymuno â’r disgyblion o Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol Ger y Llan, Ysgol Gynradd Gatholig yr Enw Sanctaidd a Grŵp Chwarae Cylch Croesgoch.
Yn ôl Rachel Perkins, Rheolwr Oriel y Parc:
“Mae wedi bod yn wych gweld dyluniadau’r ddraig ac wyau’r ddraig yn dod yn fyw yn ystod y gweithdai am ddim ar gyfer ysgolion lleol a gyflwynir gan yr artist, Kate Evans. Ar 2 Mawrth, bydd y ddraig yn gadael Oriel y Parc i orymdeithio drwy Dyddewi i ddathlu nawddsant Cymru. Dewch i gymryd rhan…os ydych chi’n ddigon dewr!
“Gall unrhyw un ymuno â’r parêd neu sefyll mewn rhes ar hyd y strydoedd i gefnogi’r digwyddiad, a byddem yn annog pawb i wisgo unrhyw beth sy’n dathlu diwylliant Cymru er mwyn helpu i ddechrau penwythnos Dydd Gŵyl Dewi mewn steil.”
Fel rhan o ymgyrch Gwnewch y Pethau Bychain Croeso Cymru, bydd cyfle i’r rheini sy’n ymweld ag Oriel y Parc yn ystod yr wythnos sy’n arwain at Barêd y Ddraig gael tusw o Gennin Pedr am ddim. Bydd nifer cyfyngedig hefyd yn cael eu rhoi allan yng Nghastell Caeriw a Chastell Henllys yn ystod y cyfnod hwn. Bydd pob tusw yn cael ei roi ar sail y cyntaf i’r felin.
I weld rhestr lawn o’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled penrhyn Tyddewi yn ystod y cyfnod hwn, ewch i www.stdavids.gov.uk.
I gael rhagor o wybodaeth am Oriel y Parc, gan gynnwys amseroedd agor, digwyddiadau ac arddangosfeydd, ewch i www.orielyparc.co.uk.