Partneriaeth wedi’i hadnewyddu yn diogelu mynediad a chadwraeth yng Nghastellmartin

Posted On : 19/06/2024

Mae cytundeb newydd wedi cael ei wneud i ddarparu cyllid parhaus ar gyfer Gwasanaeth Parcmyn ar y Meysydd Milwrol yn Ne Sir Benfro.

Cyfarfu uwch arweinwyr a staff Cyfoeth Naturiol Cymru, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn ddiweddar ym Maes Tanio Castellmartin i adnewyddu eu partneriaeth hirsefydlog, sy’n sicrhau mynediad diogel a chynaliadwy a chyfleoedd hamdden i’r cyhoedd, gan ddiogelu bywyd gwyllt unigryw a phrin yr ardal sy’n ffynnu ochr yn ochr â hyfforddiant milwrol.

Roedd y rhai a oedd yn bresennol yn y cyfarfod, a gynhaliwyd gan Lefftenant-cyrnol Richard Pope a’r Uwchgapten John Poole, yn gallu profi hyn drostynt eu hunain yn Staciau’r Heligog, lle mae’r nythfeydd o weilch y penwaig a gwylogod yn ymgynnull ar ddechrau’r tymor bridio.

Meddai’r Parcmon presennol yng Nghastellmartin, Lynne Houlston:

“Mae’r rôl hon nid yn unig yn hanfodol i sicrhau bod yr ardal yn parhau i fod yn hygyrch i’r cyhoedd pan fydd defnydd milwrol yn caniatáu hynny, ond hefyd bod y llu o blanhigion, adar ac anifeiliaid prin ac arbennig yn y Maes Tanio yn cael eu diogelu.”

Mae’r rhain yn cynnwys brain coesgoch, gloÿnnod byw brith y gors, morloi llwyd, tegeirianau adeiniog gwyrdd a nythfeydd ysblennydd o adar y môr, yn enwedig yn ystod y tymor bridio.

Rhan o rôl Lynne yw sicrhau bod pobl yn gallu ymweld a defnyddio’r Meysydd ar gyfer gweithgareddau fel dringo tra’n sicrhau nad ydynt yn tarfu ar safleoedd nythu’r rhywogaethau gwarchodedig hyn.

Dywedodd Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Mae gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau bod y rôl hon a’r cytundeb partneriaeth yn parhau mor bwysig i ni yn Cyfoeth Naturiol Cymru.  Mae gwarchod y llu o rywogaethau arbennig a geir ym Maes Tanio Castellmartin yn hanfodol i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol.  Mae rôl y Parcmon yn galluogi hyn i ddigwydd ochr yn ochr â chaniatáu i ymwelwyr fwynhau’r dirwedd hardd at ddibenion hamdden, sydd â manteision o ran llesiant ac sy’n caniatáu i natur a phobl ffynnu gyda’i gilydd.”

Stack Rocks, with colonies of razorbills and guillemots gathering at the start of the breeding season.

Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod y Parc:

“Mae’n bleser gennym groesawu ein bod yn adnewyddu’r bartneriaeth bwysig hon. Mae Maes Tanio Castellmartin yn cynnig rhai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf dramatig yng Nghymru, ac mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ymwelwyr yn gallu mwynhau hyn mewn ffordd sy’n gwarchod bywyd gwyllt arbennig y Maes. Mae’r Parcmon yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o sicrhau’r cydbwysedd hwn, a bydd yr ymrwymiad newydd yn sicrhau bod pobl a natur yn ffynnu yn parhau i ffynnu ym Maes Tanio Castellmartin.”

Dywedodd Prif Reolwr Amgylcheddol SSA, Richard Brooks:

“Mae’n bleser gan yr SSA ymuno â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i lofnodi fersiwn nesaf y bartneriaeth bwysig hon. Mae Lynne wedi bod yn ei swydd ers 21 mlynedd ac, gyda chefnogaeth Parcmon Tymhorol, mae hi wedi dangos yn glir beth yw manteision allweddol y Gwasanaeth Parcmyn hwn sy’n cael ei ariannu ar y cyd. Mae’r rôl yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o integreiddio mynediad cyhoeddus yn llwyddiannus, rheoli a monitro bywyd gwyllt a hyfforddiant a gweithgarwch milwrol”.

Mae sawl taith gerdded dywys sy’n trafod hanes, bywyd gwyllt ac archaeoleg Maes Tanio Castellmartin ar y gweill ar gyfer misoedd yr haf. I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw eich lle, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

staff from the Ministry of Defence, Pembrokeshire Coast National Park Authority and Natural Resources Wales gathered on the clifftop at Castlemartin.