Partneriaeth y Parc yn parhau â’r frwydr yn erbyn rhywogaethau goresgynnol
Mae prosiect sy’n cael ei redeg gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i fynd i’r afael â rhywogaethau estron goresgynnol wedi ennill momentwm dros yr wythnosau diwethaf, ac mae’r Awdurdod nawr yn gofyn i aelodau’r cyhoedd am eu cefnogaeth.
Dechreuodd y prosiect Pwyth mewn Pryd yn 2015 gyda chynllun peilot yn nalgylch Cwm Gwaun, ac ers hynny mae wedi cael ei ymestyn ar draws pedwar dalgylch lleol arall, yn ogystal â safleoedd llai ar draws y Parc Cenedlaethol.
Mewn partneriaeth â’r rheolwyr, gwirfoddolwyr cymunedol lleol a chontractwyr Gwasanaethau Coetir Cynaliadwy Gorllewin Cymru, gellir defnyddio dull gweithredu hynod effeithiol a chyson, gan ddyblygu’r gwaith a gafodd ei wneud yn y dalgylch peilot gwreiddiol ar raddfa safle llawn.
Yn ystod yr Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol diweddar a gynhaliwyd yn ystod wythnos olaf mis Mai, gweithiodd gwirfoddolwyr a staff yn galed i dynnu Jac y Neidiwr oddi ar dir gerllaw Canolfan Arddio Penrallt yn Nhrewyddel.
Ar ôl cael ei weld fel ychwanegiad egsotig i erddi Fictoraidd, mae Jac y Neidiwr nawr ar wasgar ledled Ynysoedd Prydain, diolch i’w allu i ollwng miloedd o hadau i’r dirwedd gyfagos a’r dyfrffyrdd cyfagos. Gan ei bod yn rhywogaeth estron oresgynnol mae’n gallu bod yn drech na phlanhigion eraill, gan sefydlu ungnwd a lleihau amrywiaeth ar draws safleoedd a hyd yn oed dalgylchoedd cyfan. Dangoswyd hefyd bod Jac y Neidiwr yn effeithio ar bryfed peillio drwy wyro llwybrau hedfan a lleihau faint o faeth sy’n cael ei gymryd.
Dywedodd Cydlynydd Prosiect Rhywogaethau Estron Goresgynnol yr Awdurdod, Matthew Tebbutt:
“Nod canolog y prosiect hwn yw codi ymwybyddiaeth ymysg unigolion, cymunedau a thirfeddianwyr ynghylch rhywogaethau estron goresgynnol, a meithrin capasiti i fonitro’r sefyllfa ar ôl i’r buddsoddiad hwn ddod â thir i gyflwr haws ei reoli.
“Mae angen i ni wybod ble mae Jac y Neidiwr yn bresennol, ond mae gwybod lle mae’r planhigyn yn absennol yr un mor bwysig. Rydyn ni’n gofyn i aelodau o’r cyhoedd, preswylwyr ac ymwelwyr gysylltu â chofnodion Presenoldeb ac Absenoldeb, yn enwedig o ardaloedd ger dŵr, llwybrau troed cyhoeddus a gwrychoedd, gan fod hyn yn creu darlun strategol o safle neu ddalgylch.
“Mae hefyd yn helpu i nodi ble i ganolbwyntio adnoddau cyfyngedig ac yn sicrhau nad yw’r pla’n digwydd eto, gan ddiffodd y banc hadau o fewn ychydig o dymhorau. Mae dalgylch arfordirol Porthgain yn fan arall lle mae’r strategaeth hon yn cael ei chymhwyso’n llwyddiannus.
“Mae’r blodau blynyddol goresgynnol hyn yn binc, neu weithiau’n wyn, rhwng diwedd Mehefin a mis Hydref ac mae’n fwyaf amlwg yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst.”
Mae’r gwaith wedi bod yn bosibl diolch i gefnogaeth gan gronfa Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a grant Mannau Lleol ar gyfer Byd Natur a sicrhawyd gan Awdurdod y Parc.
I gyflwyno cofnodion neu gael cyngor ar Rywogaethau Goresgynnol, cysylltwch â Matt Tebbutt yn matthewt@arfordirpenfro.org.uk neu drwy ffonio 01646 624800.
Mae rhagor o fanylion am y prosiect Pwyth mewn Pryd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cadwraeth/rhywogaethau-estron-goresgynnol/pwyth-mewn-pryd/.