Penwythnos o Arfau a Rhyfela yn dychwelyd i Gastell Caeriw gyda gwledd o hanes byw

Posted On : 14/08/2024

Bydd penwythnos prysur o hanes byw, arfau a rhyfela yn cael ei gynnal yng Nghastell Caeriw dros ŵyl y banc, wrth i grŵp hanes byw Historia Normannis fynd ag ymwelwyr yn ôl i’r 12fed ganrif yn un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Sir Benfro.

Bydd y tri diwrnod o weithgarwch, sydd am ddim gyda’r pris mynediad arferol i’r Castell, yn cynnwys gwersyll canoloesol yn arddangos sgiliau traddodiadol, ynghyd ag arddangosiadau ymladd ac arfau anhygoel.

Bydd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys Sioe Ffasiwn ganoloesol am 12pm bob dydd, ynghyd â sesiwn Llys y Sir am 2pm, a fydd yn tynnu sylw at y cyfreithiau caled a didrugaredd a oedd yn cael eu gorfodi yn yr Oesoedd Canol.

Dywedodd Daisy Hughes, Rheolwr Castell a Melin Heli Caeriw:

“Rydyn ni’n falch iawn o groesawu Historia Normannis yn ôl i Gaeriw dros wyliau’r banc. Bydd y Penwythnos o Arfau a Rhyfela yn wers hanes fythgofiadwy am amodau byw byddin o’r 12fed ganrif.

“Mae’n argoeli i fod yn dri diwrnod cyffrous, lle bydd ymwelwyr yn cael cyfle i drin a thrafod atgynyrchiadau o arteffactau, ac i fireinio eu sgiliau rhyfela eu hunain drwy roi cynnig ar saethyddiaeth. Sylwer y codir tâl bach am rai o’r gweithgareddau.”

Bydd Penwythnos o Arfau a Rhyfela Caeriw yn cael ei gynnal o ddydd Sadwrn 24 Awst tan ddydd Llun 26 Awst, rhwng 10am a 4pm bob dydd.

Mae rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn, gan gynnwys amserlen lawn y penwythnos, ar gael yn www.castellcaeriw.com.

I ddod o hyd i ddigwyddiadau eraill sy’n cael eu cynnal ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro dros yr haf, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

 

A group of medieval soldiers with shields and swords.