Prosiect adfer wystrys yn mynd ati i gyfoethogi Dyfrffordd y Daugleddau
Mae prosiect newydd cyffrous ar y gweill i adfer y boblogaeth o wystrys brodorol a fu unwaith yn doreithiog yn Nyfrffordd Aberdaugleddau a, thrwy wneud hynny, bydd yn gwella cyflwr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Forol Sir Benfro.
Mae’r gwaith hwn yn cael ei gynnal mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, Swyddog ACA Forol Sir Benfro, a Tethys Oysters ym Mae Angle, ac mae’n rhan o Elfen Carbon Glas y Rhaglen Arfordir Gwyllt! Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Tirweddau Cymru.
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Mae 25% o dirwedd Cymru yn dirweddau dynodedig, fel Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sy’n golygu eu bod yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu natur i adfer.
“Mae’r Gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy, yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i greu amgylchedd cynaliadwy a chadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ers i’r prosiect ddechrau ym mis Tachwedd 2023, mae stoc mag Ostrea edulis wedi cael ei gasglu o Fae Angle a Burton Ferry a’i gludo i Brifysgol Bangor, gyda’r nod o’i fagu a’i ddychwelyd i Ddyfrffordd Aberdaugleddau i roi hwb i boblogaethau presennol.
Disgwylir y bydd hyd at 200,000 o silod wystrys brodorol yn cael eu cynhyrchu, ond gallai’r niferoedd fod yn llawer mwy.
Esboniodd Sarah Mellor, Swyddog Bioamrywiaeth Awdurdod y Parc Cenedlaethol: “Mae poblogaethau wystrys Prydain wedi dirywio’n arw dros y degawdau, o ganlyniad i golli cynefinoedd, llygredd, gor-gynaeafu a chlefydau. Mae goblygiadau hyn i iechyd ein hamgylchedd morol yn sylweddol. Yn ogystal â bod yn hidlwyr bwyd sy’n puro’r dŵr o’u cwmpas, mae wystrys hefyd yn storio carbon, ac mae eu riffiau hefyd chwarae rhan bwysig o ran meithrin bioamrywiaeth drwy ddarparu bwyd, lloches a gwarchodaeth i amrywiaeth eang o fywyd morol.”
Ar hyn o bryd, ychydig iawn o gyfleusterau meithrin sy’n gallu darparu wystrys brodorol i’w hadfer. Mae’r wystrys brodorol sydd wedi cael eu cyflwyno i’r Ddyfrffordd hyd yma wedi cael eu magu ym Mae Morecambe. Mae statws Dyfrffordd Aberdaugleddau fel ardal Bonamia (clefyd parasitig) hefyd yn gosod cyfyngiadau ychwanegol ar symud wystrys.
Mae rhai pobl o’r farn y gallai’r hen wystrys brodorol sydd yma fod â rhywfaint o ymwrthedd i glefyd Bonamia. Dyma pam – yn ogystal â’r awydd i ddiogelu gwneuthuriad genynnol poblogaethau lleol, a allai hefyd ddarparu cadernid ychwanegol – y mae adfer gan ddefnyddio stoc frodorol yn opsiwn mor ddeniadol.
Yn dilyn protocolau bioddiogelwch a chyfnod byr o gwarantin, mae’r llwyth cyntaf o tua 40 o wystrys wedi dechrau’r broses gyflyru i silio yn eu meithrinfa dros dro. Bydd yr wystrys sy’n weddill yn cael eu cyflyru i silio yn ystod gwanwyn a dechrau haf 2024.