Prosiect Cysylltu’r Arfordir yn dathlu llwyddiannau pwysig o ran adfer natur

Posted On : 07/11/2024

Mae prosiect tair blynedd uchelgeisiol Cysylltu’r Arfordir, sef prosiect i adfer byd natur a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, ar fin dod i ben ac mae wedi cymryd camau breision i ddiogelu a gwella ecosystemau bregus Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae’r prosiect, sydd wedi’i lunio i ddiogelu cynefinoedd arfordirol a gwella bioamrywiaeth ar dir fferm wrth ymyl yr arfordir eiconig, yn gweithio mewn cydweithrediad agos â ffermwyr a thirfeddianwyr lleol i adfer cynefinoedd, cryfhau cadernid ecosystemau, a hyrwyddo ffyrdd cynaliadwy o reoli tir.

Mae Cysylltu’r Arfordir wedi esgor ar ganlyniadau trawiadol, gyda newidiadau o ran rheoli tir yn creu cynefinoedd ffyniannus ar gyfer bywyd gwyllt. Mae hyn wedi dod i’r amlwg wrth i ni weld blodau gwyllt arfordirol fel y ganrhi goch a’r clefryn yn ailymddangos lle mae mesurau pori er lles cadwraeth wedi’u rhoi ar waith, a phlanhigion âr prin fel trwyn-y-llo lleiaf a llysiau’r-gwrid yn tyfu yn yr ymylon o gwmpas cnydau sydd wedi cael eu gadael heb eu chwistrellu.

Mae dolydd gwair newydd hefyd yn ffynnu, gan gynnig noddfa i bryfed peillio ac adar, ac mae porfeydd sy’n gyforiog o rywogaethau yn helpu i ddiogelu iechyd pridd a diogelu stociau carbon. Mae’r ardaloedd hyn sy’n llawn bioamrywiaeth yn creu clustogfeydd hanfodol yn yr ecosystem arfordirol, gan gynnig mwy o wytnwch yn erbyn effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Dywedodd Clare Flynn, Swyddog Prosiect Cysylltu’r Arfordir: “Wrth galon prosiect Cysylltu’r Arfordir mae partneriaeth gref gyda’r gymuned ffermio a thirfeddianwyr lleol. Mae hyn yn amrywio o ffermydd llaeth mawr i dyddynwyr sydd ag ychydig o gaeau – ac rydyn ni wedi cael cefnogaeth aruthrol a chroeso cynnes gan bawb.”

Drwy gydol y prosiect, mae Cysylltu’r Arfordir wedi cyflawni sawl carreg filltir arwyddocaol yn ei genhadaeth i adfer a gwarchod cynefinoedd. Mae’r rhain yn cynnwys gosod bron i 19,000 metr o ffensys i wella pori cadwraethol, a diogelu dros 80 hectar o lethrau arfordirol i warchod rhywogaethau arfordirol eiconig. Ar ben hynny, mae dros 50 hectar o weirgloddiau a 50 hectar o borfeydd parhaol sy’n gyforiog o rywogaethau wedi cael eu creu, gan wella bioamrywiaeth a chefnogi iechyd pridd.

Wrth i’r prosiect ddirwyn i ben yn y misoedd nesaf, bydd y tîm yn parhau i ddarparu cymorth a chyngor wedi’i deilwra i dirfeddianwyr, gan fynd ati’n ofalus i fonitro canlyniadau ecolegol yr ymdrechion i adfer cynefinoedd. Mae’r prosiect wedi ymrwymo i ddyfnhau sgyrsiau gyda ffermwyr a Llywodraeth Cymru i sicrhau cymorth ffermio cynaliadwy a sicrhau bod adfer byd natur yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth yn Sir Benfro a thu hwnt.

Mae Cysylltu’r Arfordir wedi cael cymorth ariannol gan gronfa Tirluniau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Er bod y broses gwneud cais am gyllid wedi dod i ben erbyn hyn, mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael drwy anfon e-bost at Clare Flynn yn claref@pembrokeshirecoast.org.uk.