Prosiectau lleol yn elwa o grantiau’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Posted On : 20/06/2024

Mae saith prosiect lleol wedi elwa o gael dros £70,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Mae Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cefnogi prosiectau dan arweiniad y gymuned yn y Parc Cenedlaethol a’r cyffiniau sy’n cyfrannu at leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Yn y rownd ddiweddaraf o gyllid, dyfarnwyd grantiau i Southern Roots Organics, Amgueddfa Arberth, a Thafarn Gymunedol Crymych Arms i osod systemau solar ffotofoltäig. Hefyd, cafodd Cymdeithas Gymunedol a Chwaraeon Arberth a’r Cylch gyllid i uwchraddio eu system solar ffotofoltäig bresennol a gwella effeithlonrwydd ynni’r goleuadau ar eu cwrt sboncen. Yn ogystal â chynhyrchu trydan carbon isel newydd a gwrthbwyso’r defnydd o drydan carbon uwch y grid, bydd y prosiectau hyn yn lleihau costau trydan parhaus y sefydliadau hyn.

Roedd Neuadd Gymunedol Cosheston yn fuddiolwr arall, a gafodd gefnogaeth gan y Gronfa i adeiladu sied feiciau. Nod y prosiect hwn yw annog mwy o bobl i feicio i’r Neuadd, gan hyrwyddo teithio cynaliadwy yn y gymuned.

Ym Marloes, mae cyllid y Gronfa Datblygu Cynaliadwy wedi braenaru’r tir ar gyfer ôl-osod golau carbon isel a golau sy’n hybu Awyr Dywyll yng nghloc y pentref. Bydd hyn yn lleihau’r defnydd o ynni a’r llygredd golau yn yr ardal.

Hefyd, cafodd The VC Gallery gyllid i uwchraddio ei ffenestri a’i ddrysau i rai mwy ynni-effeithlon, a fydd yn creu gofod cymunedol cynhesach ac yn lleihau ei allyriadau carbon.

Dywedodd Jamie Leatham o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:

“Mae’r grantiau hyn yn cynrychioli ein hymrwymiad parhaus i fynd i’r afael â’r Argyfwng Hinsawdd, gan gefnogi prosiectau sy’n cael eu harwain gan y gymuned, yn gwella cynaliadwyedd ac yn lleihau allyriadau carbon.”

“Drwy ariannu mentrau fel gosod paneli solar ffotofoltäig, uwchraddio effeithlonrwydd ynni, ac atebion trafnidiaeth cynaliadwy, rydyn ni’n helpu ein cymunedau i leihau allyriadau, i gynhyrchu eu hynni carbon isel eu hunain, ac i godi ymwybyddiaeth, er mwyn hyrwyddo dyfodol mwy gwyrdd a mwy cadarn i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro.”

Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnwys arian a ddyrennir o Gronfa Tirluniau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/awdurdod-y-parc-cenedlaethol/cronfa-datblygu-cynaliadwy/.

 

Hawlfraint y ddelwedd: Russ Hamer/Wikipedia

Marloes Clocktower on a fine day