Sbonciwch tuag at wyliau’r Pasg gyda hwyl i’r teulu ar draws y Parc

Posted On : 09/04/2025

Bydd gwyliau'r Pasg yn llawn cyffro ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda gweithgareddau teuluol yn cael eu cynnal ar draws y Parc ac yn nhri phrif atyniad yr Awdurdod – Castell Caeriw, Castell Henllys ac Oriel y Parc. Mae'r digwyddiadau’n cyd-fynd â dechrau’r Pythefnos Darganfod Parciau Cenedlaethol (4 i 18 Ebrill), sy'n dathlu tirweddau gwarchodedig y DU.

Yng Nghastell Caeriw, gall ymwelwyr fwynhau llwybrau cerdded, straeon a digon o ddrygioni canoloesol. O ddydd Sadwrn 5 Ebrill i ddydd Sul 27 Ebrill, mae Helfa Wyau Fawr Bwni yn gwahodd plant i chwilio tiroedd y Castell am wyau cudd gan ddefnyddio ffôn clyfar, gyda gwobr felys i’r rhai sy’n llwyddo. Bydd yr Hanesion Hyll bythol boblogaidd hefyd yn dychwelyd gyda straeon arswydus a hanesion echrydus am fywyd y Castell, sydd am ddim gyda’r pris mynediad arferol am 11am ar ddyddiau’r wythnos rhwng 7 a 25 Ebrill.

Awydd antur? Cymerwch ran yn Dewch o Hyd i’r Allwedd!, cwest i ddod o hyd i bedair allwedd gudd – dim ond un ohonyn nhw’n sy’n datgloi cist drysor y Castell. Mae’r her yn cael ei chynnal bob dydd am 3pm, ac eithrio dydd Mawrth. Ar y dyddiau hynny – 8, 15 a 22 Ebrill – mae’r sylw’n troi at Daith Dywys Deuluol y Castell am 1.30pm, ac yna TÂN! Lansio’r Fagnel Enfawr am 2.30pm, pan fydd yr injan warchae chwedlonol yn cael ei thanio.

Bydd Storymaster’s Quests: Castell Antur yn dychwelyd gyda phrofiadau ffantasi ymdrochol a grëwyd gan Oliver McNeil ac a leisiwyd gan Tom Baker. Yn addas i blant 6+ oed, mae tocynnau’n £6 y pen, a rhaid talu’r pris mynediad arferol i’r Castell hefyd. Dyddiadau’n amrywio. Gweler y wefan am ragor o fanylion.

Yn goron ar y cyfan, mae Ffair Fach y Pasg ’mlaen rhwng 18 a 21 Ebrill, yn cynnig reidiau a gemau i ymwelwyr iau. Bydd angen talu ffioedd bach.

Am oriau agor a gwybodaeth archebu, ewch i www.castellcaeriw.com.

A giant trebuchet being fired in the grounds of Carew Castle

Ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys, gall teuluoedd deithio yn ôl drwy amser y Pasg hwn gyda chymysgedd o weithgareddau ymarferol a sgiliau hynafol.

Ddydd Mawrth 15 a 22 Ebrill, mae Hud y Derwyddion yn rhoi’r cyfle i gynnau tân, pobi bara a rhoi cynnig ar beintio wynebau traddodiadol, tra’n dysgu sut roedd Derwyddon Prydain Oes yr Haearn yn cysylltu â’r byd o’u cwmpas.

Mae Hwyl yn Henllys, ddydd Mercher 16 a 23 Ebrill, yn cynnwys rhestr newidiol o grefftau cynhanesyddol, tra bod y Diwrnodau Darganfod ddydd Iau 17 a 24 Ebrill yn gwahodd ymwelwyr i roi cynnig ar rywbeth newydd – o dechnegau hynafol i arbrofion creadigol wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol.

Bydd Gweithdy Nyddu Teuluol newydd ddydd Sul 13 Ebrill yn dysgu’r grefft hynafol o droi cnu’n edafedd gan ddefnyddio gwerthyd ollwng. Cynhelir y sesiynau am 11am a 1.30pm. Gweler y wefan am wybodaeth archebu.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.castellhenllys.com.

The exterior of a roundhouse at Castell Henllys Iron Age village

Yn Oriel y Parc, Canolfan Ddarganfod y Parc Cenedlaethol yn Nhyddewi, mae’r sylw ar natur, creadigrwydd a dathliadau tymhorol. Bydd y Llwybr Antur Wyau, sydd ’mlaen rhwng 12 a 27 Ebrill, yn gwahodd anturiaethwyr ifanc i chwilio’r safle am wyau prydferth wedi’u hysbrydoli gan adar lleol.

Mae’r hwyl ymarferol yn parhau gyda dau weithdy Gwnewch ac Ewch, y gallwch alw draw iddynt fel y mynnwch. Ddydd Mercher 16 Ebrill, gall ymwelwyr adeiladu lloches glyd i ddraenogod mewn pryd ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod. Y dydd Mercher canlynol, 23 Ebrill, gall plant greu pryfed côn coed lliwgar yn y Gweithdy Noddfa Buchod Coch Cwta.

Awydd profiad creadigol dyfnach? Cynhelir Gweithdy Printiau Barddoniaeth wedi’i Fforio gyda’r artist Bean Sawyer ddydd Iau 24 Ebrill rhwng 10am-1pm. Gan ddefnyddio printio syanoteip a darnau o farddoniaeth, gall y sawl sy’n cymryd rhan greu gwaith celf glas trawiadol gan ddefnyddio deunyddiau naturiol. Rhaid cadw lle.

Gall ymwelwyr hefyd gael golwg ar arddangosfa Grŵp Celf Tyddewi a Solfach rhwng 17 a 23 Ebrill, sy’n arddangos gwaith ar thema’r gwanwyn gan artistiaid lleol, gyda’r elw’n cefnogi elusennau.

I ddysgu mwy, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Y tu hwnt i’r prif atyniadau, gall ymwelwyr fwynhau detholiad o deithiau tywys a phrofiadau bywyd gwyllt ar draws y Parc Cenedlaethol ehangach.

Ddydd Iau 10 Ebrill, bydd Taith Gerdded y Smyglwyr a’r Môr-ladron yn cychwyn o Harbwr Solfach am 10am. Mae’r llwybr arfordirol 3.5 milltir hwn yn datgelu cildraethau cudd, caerau o’r Oes Haearn a straeon o ddrwgweithredoedd morwrol.

Yn ddiweddarach yn y mis, gall adarwyr fwynhau dau gyfle i gysylltu â thrigolion pluog y Parc. Ddydd Iau 24 Ebrill, bydd Beth yw’r Aderyn ’Na? yng Nghoedwig Mynwar yn eich helpu i ddysgu sut i adnabod rhywogaethau’r coetir gyda’ch llygaid a’ch clustiau, dan arweiniad Ceidwad y Parc Cenedlaethol. Mae’r tymor yn dod i ben gyda thaith gerdded heddychlon Côr y Bore Bach ddydd Sul 27 Ebrill, gan ddechrau o Abergwaun Isaf am 6am – cyfle i gofleidio’r diwrnod i gyfeiliant yr adar.

I gynllunio’ch ymweliad a darganfod mwy o ddigwyddiadau, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau.

Pine cone sculptures of colourful winged insects.