Sir Benfro yn ennill ei lle ymysg yr 20 cyrchfan mwyaf poblogaidd yn y byd
Mae Sir Benfro wedi cael ei henwi yn un o’r 20 cyrchfan gorau yn y byd yn 2023, a hynny mewn rhestr sy’n seiliedig ar filiynau o sgyrsiau ac adolygiadau ar-lein ar safleoedd fel TripAdvisor.
Mae Sir Benfro wedi ennill y blaen ar gyrchfannau gwyliau eithriadol o boblogaidd fel Fiji, Santorini a’r Bahamas ac yn un o ddim ond deg cyrchfan yn y DU sydd wedi cael ei henwi ar restr ‘Leading Places: The 100 Most Loved Travel Destinations Around the World’.
Mae Sir Benfro wedi cyrraedd safle rhif 19 gyda sgôr o 30.8 ar raddfa’r Sgôr Teimladau Twristiaid (Tourism Sentiment Score). Prif ased y sir yw ei thraethau, a’r unig gyrchfan sydd wedi sgorio’n uwch yn y DU yw Perth a Kinross yn yr Alban, gan gyrraedd safle rhif 11 safle gyda sgôr o 33.7.
Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
: “Mae’n wych gweld Sir Benfro mewn safle mor uchel, yn enwedig gan fod y safleoedd yn seiliedig ar eiriau ymwelwyr sydd wedi profi’r pleserau sydd gan y gornel hon o Gymru i’w gynnig.
“Mae hyn yn adlewyrchiad cadarnhaol iawn o’r gwaith caled mae’r busnesau a’r sefydliadau wedi’i wneud ar y cyd i wneud Sir Benfro a’r Parc Cenedlaethol yn lle gwych i ymweld ag ef. Mae hefyd yn hwb go iawn i’r diwydiant wrth i ni baratoi ar gyfer y tymor prysur arall sydd o’n blaenau.”
Wedi’i lunio gan y Mynegai Teimladau Twristiaid (The Tourism Sentiment Index), y 100 cyrchfan uchaf yw’r lleoliadau sy’n cael y sgôr uchaf ymhlith mwy nag 20,000 o leoliadau, sy’n seiliedig ar 1.6 biliwn o sgyrsiau ar-lein ac erthyglau sydd ar gael i’r cyhoedd o 2022.
Mae cyfanswm y Sgôr Teimladau Twristiaid yn seiliedig ar roi sgôr am hyd at 50 o asedau twristiaeth ar gyfer pob cyrchfan, fel trafnidiaeth, llety, atyniadau a digwyddiadau.
I weld y rhestr yn llawn ewch i wefan ‘The Sentiment Index’ (agor mewn ffenestr newydd).