Swyddog Cyswllt Ffermio newydd i feithrin cysylltiadau rhwng Awdurdod y Parc a’r sector amaethyddol
Mae dyn lleol o gefndir amaethyddol wedi cael ei benodi’n Swyddog Cyswllt Ffermio newydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Mae hon yn rôl bwysig sy’n darparu cyswllt â phawb sy’n ymwneud â’r sector amaethyddol.
Cafodd Arwel Evans ei eni a’u fagu yng Ngogledd Sir Benfro ac mae wedi bod yn ymwneud â Ffermwyr Ifanc Sir Benfro ers blynyddoedd lawer. Yn ddiweddar, dechreuodd yn ei swydd newydd ar ôl bod yn gweithio cyn hynny yn atyniad yr Awdurdod i ymwelwyr, Pentref Oes Haearn Castell Henllys.
Dywedodd Arwel:
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cadwraeth gyda chymunedau yn y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y ffyrdd newydd o reoli tir yn gynaliadwy sy’n dod i’r amlwg ar ôl Brexit.
“Byddaf hefyd yn gweithio’n galed i barhau i feithrin y cysylltiadau a’r partneriaethau y mae fy rhagflaenydd, Geraint Jones, wedi’u sefydlu a’u datblygu dros y degawdau diwethaf.”
Bydd Arwel yn gweithio gyda ffermwyr lleol, tirfeddianwyr a phorwyr tir comin i ddatblygu atebion i bwysau amgylcheddol yn y Parc Cenedlaethol ac i gyflawni amrywiaeth eang o brosiectau amgylcheddol.
Bydd ei waith hefyd yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau fel undebau’r ffermwyr, PLANED, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Cyfoeth Naturiol Cymru.