Taith Gerdded Sain Santes Non yn mynd â gwrandawyr ar daith at ‘galon y byd Celtaidd’
Mae podlediad newydd yn rhoi cyfle i bobl o bob cwr o’r byd ddilyn olion traed pererinion hynafol a phrofi straeon, cyfrinachau a synau Capel Santes Non a’r Ffynnon Sanctaidd, lle tybir y cafodd nawddsant Cymru ei eni.
Mae Taith Gerdded Sain Santes Non, sydd wedi’i chreu gan yr awdur a’r darlledwr enwog o Gymru Horatio Clare, yn mynd â gwrandawyr ar daith ar gwch ac ar droed, gan ddatgelu tirwedd ysbrydoledig sy’n gorwedd rhwng y môr a Tyddewi, dinas leiaf Prydain.
Mae’r daith sain hon, sy’n cael ei ryddhau ar Ddydd Gŵyl Santes Non, yn seiliedig ar leisiau artistiaid, ffermwyr, haneswyr, cerddorion, morwyr ac awduron sy’n siarad am eu perthynas â Santes Non, y môr, y dirwedd, yr hanes, y chwedlau, y creadigrwydd a’r ymdeimlad ysbrydol sy’n perthyn i’r lle.
Dywedodd Horatio Clare:
“Roedd creu’r Daith Gerdded Sain hon o amgylch Tyddewi, un o’r llefydd harddaf ar y ddaear, yn brofiad hudolus a hyfryd, yn llawn syrpreisys, cyfoeth, a gogoniant yr hanes a diwylliannau sy’n dyddio’n ôl miloedd o flynyddoedd, ond sy’n parhau i fodoli hyd heddiw.
“Fel brodor o Dde Cymru sy’n caru ac yn adnabod Sir Benfro fel cefn ei law, braint arbennig oedd darganfod a chysegru straeon, bywydau a hanes y lle arbennig hwn.”
Mae’r awdur/darlledwr Laura Barton yn ymuno â Horatio, sy’n dod â phersbectif awdur a chwilfrydedd teithiwr i’r daith sain wrth iddynt gerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir i ymweld â Chapel Santes Non ar fore braf o haf.
Ceir cyfraniadau gan y capten llong Ffion Rees, yr awduron o Gymru Jon Gower a Brenig Davies, y cantorion Mike Chant, Roy Jones, Lis Cousens a Rudi Lloyd Benson, yr artistiaid Jackie Morris a Becky Lloyd, y ffermwyr Elspeth Cotton a Robert Davies, yr ysgolhaig Dean Sarah Rowland Jones, yr archaeolegydd morwrol Julian Whitewright a’r morwr Graham da Gama Howells.
Ychwanegodd Swyddog Dehongli Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Rhowan Alleyne:
“Wedi’i ysbrydoli gan deithiau’r gorffennol, mae Taith Gerdded Sain Santes Non yn brofiad cyfoethog a myfyriol a fydd yn arwain gwrandawyr o bob cwr o’r byd i glogwyni trawiadol Sir Benfro.”
Cafodd y daith sain ei recordio ym mis Awst 2021 ac mae ar gael i’w llwytho i lawr am ddim oddi ar wefan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Cafodd y daith sain ei hariannu gan Cysylltiadau Hynafol, prosiect sy’n adfywio’r cysylltiadau hynafol rhwng Gogledd Wexford yn Iwerddon a Gogledd Sir Benfro, yn ogystal ag Iwerddon a Chymru, er mwyn creu twristiaeth gynaliadwy yn y rhanbarthau hyn a rhyngddynt.
Mae Cysylltiadau Hynafol yn cael ei ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Cydweithredu Cymru Iwerddon. Partneriaid y prosiect yw Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cyngor Sir Wexford a Visit Wexford.
I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Cysylltiadau Hynafol, ewch i wefan Cysylltiadau Hynafol.
I lwytho Taith Gerdded Sain Santes Non i lawr, ewch i dudalen Taith Sain Santes Non.