Tîm y Parc Cenedlaethol yn cyrraedd y rhestr fer mewn gwobrau Cysylltiadau Cyhoeddus nodedig
Yn fuan, bydd Tîm Cyfathrebu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn mynd benben â gweithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes cysylltiadau cyhoeddus ledled y DU, ar ôl cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Rhagoriaeth y Sefydliad Cysylltiadau Cyhoeddus Siartredig (CIPR).
Mae ymateb Awdurdod y Parc Cenedlaethol i’r argyfwng wrth ddelio ag effaith pandemig y Coronafeirws wedi cael ei gydnabod fel un o’r cynigion gwych yn y categori ymgyrch Cyllideb Isel Orau, ochr yn ochr â chyflwyniadau gan sefydliadau ac asiantaethau cysylltiadau cyhoeddus ledled y wlad.
Dywedodd Marie Edwards, Rheolwr Cyfathrebu a Marchnata’r Awdurdod:
“Ar ôl blwyddyn eithriadol o heriol o ran delio ag effaith y pandemig a’r pwysau cysylltiedig mae ymwelwyr wedi’i roi ar y Parc Cenedlaethol, rwyf wrth fy modd bod gwaith caled a chreadigrwydd ein tîm Cyfathrebu wedi cael ei gydnabod mewn gwobr mor nodedig gan arbenigwyr blaenllaw yn y diwydiant.
“Mae’r tîm wedi gweithio’n ddiflino dros y 12 mis diwethaf i ddatblygu a chyflawni’r Cynllun Adfer Cyfathrebu drwy Covid:19 a’r ymgyrch gysylltiedig, gan ymgysylltu â phartneriaid ledled Cymru, y diwydiant twristiaeth a’n cymunedau lleol i ymateb i heriau’r pandemig.
“Roedd yr ymgyrch wedi’i strwythuro o amgylch tair elfen o weithgarwch:
– Sicrhau cymunedau lleol mai diogelwch oedd ein blaenoriaeth, a phan oedd yr amser yn iawn i groesawu ymwelwyr, y byddai’r croeso’n gynnes.
-Ymateb i faterion sy’n dod i’r amlwg mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a meithrin ethos o barch – i’r tir, i gymunedau lleol ac i’n gilydd.
-Ysbrydoli ein cynulleidfaoedd drwy greu cysylltiad emosiynol â’r Parc Cenedlaethol yn y gobaith y bydd ymwelwyr yn dychwelyd flwyddyn ar ôl blwyddyn.
“Byddwn yn parhau i adeiladu ar lwyddiant gwaith y llynedd, gan ddatblygu’r ymgyrch #TroedionYsgafn ar gyfer y tymor hwn, i hyrwyddo’r Parc Cenedlaethol fel cyrchfan eiconig, diogel a chroesawgar i ymwelwyr, ac i annog ymddygiad cyfrifol gan ymwelwyr.”
Dywedodd Prif Weithredwr Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Tegryn Jones:
“Dylai’r tîm fod yn falch iawn eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig hyn, sy’n dilyn blynyddoedd hynod lwyddiannus a buddugoliaethau mewn gwobrau blaenorol, ac yn pwysleisio safon uchel y swyddogion sy’n gweithio i’r Awdurdod.
“Mae Marie a’r tîm wedi profi unwaith eto eu bod yn rhagori wrth gyflawni ymgyrchoedd creadigol a sicrhau canlyniadau arbennig, hyd yn oed gyda’r pwysau ychwanegol o weithredu yn ystod pandemig byd-eang.”
Bydd y tîm yn cael gwybod a ydynt wedi ennill eu categori mewn seremoni wobrwyo a gynhelir o bell ar 17 Mehefin.