‘Tywyn’ Nadolig Caeriw yn goleuo’r ŵyl a’ch synhwyrau
Bydd goleuadau Nadolig hudolus Castell Caeriw yn dychwelyd am yr ail flwyddyn ym mis Rhagfyr eleni, gan ddod â disgleirdeb y mae mawr ei angen ar nosweithiau tywyll y gaeaf...
Bydd y cyfle unigryw hwn i ddarganfod Castell Caeriw a’i Ardd Furiog yn barod ar gyfer y Nadolig, ar gael am ddim bob dydd Gwener i ddydd Sul, rhwng 1 Rhagfyr a 17 Rhagfyr, rhwng 4.30pm a 7.30pm.
Yn ogystal â’r wledd drawiadol wrth i wyneb dwyreiniol y Castell gael ei oleuo, gall ymwelwyr edrych ymlaen hefyd at arddangosfeydd hudolus o oleuadau yn yr Ardd Furiog. Yma, bydd gardd hudolus wedi’i chreu i’r teulu cyfan ei mwynhau, gan gynnwys ardal newydd sbon o weithgareddau a gemau ‘tywynnu yn y tywyllwch’.
Bydd Ystafell De Nest ar agor tan 7.30pm yn ystod y penwythnosau hyn, gan weini amrywiaeth o ffefrynnau’r Nadolig a fydd yn tynnu dŵr i’r dannedd.
Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes: “Rydyn ni wedi ychwanegu arddangosfeydd newydd atmosfferig ar gyfer 2023 ac rydyn ni’n agor mwy o’r Castell na’r hyn a wnaed Nadolig diwethaf. Mae’r digwyddiad hwn yn parhau i fod yn rhad ac am ddim er budd ein cymunedau lleol ac er mwyn diolch am eu cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.
“Rydyn ni’n goleuo ac yn addurno’r Castell mewn modd sensitif, gydag arddangosfeydd sy’n ychwanegu at harddwch cynhenid y safle ysblennydd hwn. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle rhy dda i’w golli, ac rydyn ni’n gobeithio y daw’n ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr Nadolig pawb.”
Bob penwythnos, bydd perfformiadau arbennig iawn o gerddoriaeth fyw gan gorau lleol, gan gynnwys Quaynotes a Chôr Ffliwtiau Cleddau. Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys amseroedd, ar gael ar wefan Castell Caeriw.
Ni fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb ymddangosiad Siôn Corn, ac yn ystod wythnosau cyntaf mis Rhagfyr, bydd y dyn eiconig mewn coch yn dianc o’i amserlen brysur i ymweld â’r Castell. Bydd Siôn Corn ar gael i’r sawl sy’n galw yn ei Groto hudolus yn yr Ardd Furiog bob penwythnos rhwng 2 Rhagfyr a 17 Rhagfyr, rhwng 11am a 5pm. Rydym yn codi tâl bychan er mwyn i chi ymweld â Siôn Corn a chael anrheg. Rhaid archebu slot amser yn y groto ymlaen llaw yn www.castellcaeriw.com.
Mae mynediad i Tywyn yn rhad ac am ddim a does dim angen archebu eich lle. Bydd ar agor bob dydd Gwener i ddydd Sul yn y cyfnod rhwng 1 Rhagfyr a 17 Rhagfyr, rhwng 4.30pm a 7.30pm.
Ewch i www.castellcaeriw.com i gael y manylion llawn, gan gynnwys oriau agor y Castell a’r Ystafell De yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.