Y Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn dyfarnu £40,000 i brosiectau cymunedol carbon isel
Mae tri phrosiect lleol wedi elwa o gael dros £40,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r Gronfa yn cefnogi prosiectau sy’n cyfrannu at leihau carbon a chynorthwyo’r ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Gallai enghreifftiau gynnwys gosod paneli solar neu gyfleusterau gwefru trydan ar adeiladau cymunedol; cynllun rhannu beiciau, neu brosiect a fydd yn lleihau allyriadau trafnidiaeth; prosiectau cymunedol i leihau gwastraff, fel gosod ffynhonnau dŵr neu gynlluniau ailgylchu; neu unrhyw gynlluniau eraill i leihau carbon yn y gymuned.
Mae canolfan gymunedol Hubberston a Hakin yn un o’r rhai a elwodd o’r rownd ddiweddaraf o ariannu, gyda grant i osod batrïau i gyd-fynd â’r paneli solar ffotofoltäig sydd eisoes yno ers mis Medi 2020. Bydd storfa fatri yn galluogi’r grŵp cymunedol i gadw’r trydan solar a gynhyrchwyd yn ystod y dydd ar y gyfer y nosweithiau, pan mae’r Ganolfan yn cael ei defnyddio’n rheolaidd.
Dyfarnwyd £25,000 i FRAME Sir Benfro er mwyn cefnogi creu storfa ddiblastig a ddiwastraff yn Noc Penfro. Mae’r storfa, a fydd ar adeiladau FRAME sy’n bodoli eisoes, yn gobeithio troi’r llanw ar lygredd plastig drwy fabwysiadu dull diwastraff a hybu ail-ddylunio ac ailddefnyddio deunyddiau a chynnyrch.
Bydd y storfa ei hun yn ddiblastig a dibecyn ac yn stocio eitemau sy’n hwyluso ffordd o fyw ddiwastraff, fel bwyd sych, glanedyddion golchi, brwsys dannedd bambŵ, siampŵ a bagiau brethyn.
Y trydydd prosiect i dderbyn Grant Datblygu Cynaliadwy oedd Cadernid Cymunedol Ffynnon yng Ngogledd Ddwyrain Sir Benfro er mwyn eu cynorthwyo gyda’u prosiect Sow It to Grow It. Nod y cynllun yw cefnogi gweithgareddau cymunedol sy’n ymwneud â chynhyrchu bwyd a lles yn ardaloedd Cilgerran a Blaenffos, a bydd yn cynnwys plannu ac ehangu’r gofod tyfu, a chyflwyno tri chwrs deuddydd ar gynhyrchu bwyd, tyfu a sgiliau garddwriaeth adfywiol. Mae diwrnod lles cymunedol hefyd yn rhan o’r cynllun, a’r gobaith yw y bydd gwelliannau’n galluogi defnyddwyr y banc bwyd lleol i fwynhau’r ardd gyda gwirfoddolwyr.
Os ydych chi’n chwilio am gyllid ar gyfer prosiect yn Sir Benfro sy’n cyfrannu at leihau carbon ac yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, efallai y bydd Cronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn addas i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am gymhwysedd, sut mae gwneud cais a’r ffurflen gais ar gael drwy fynd i’n tudalen CDC.
Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 y prynhawn ddydd Gwener, 25 Chwefror 2022.
Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn arian a ddyrannwyd gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chronfa Tirweddau Cynaliadwy Mannau Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.