Y Nadolig yn Tywynnu yng Nghastell Caeriw
Bydd goleuadau Nadolig newydd sbon yng Nghastell Caeriw i oleuo’r gaeaf llwm o 17 Tachwedd ymlaen, ac i droi sylw at chwe wythnos o ddathliadau rhad ac am ddim
Bydd Tywyn yn goleuo’r Castell yn fwy nag erioed o’r blaen. Bydd cyfle hefyd i ymweld â Sion Corn yn ei Groto, yn ogystal â chael blas ar ffefrynnau Nadoligaidd yn Ystafell De Nest.
Yn ogystal â sicrhau bod mynediad am ddim i ymwelwyr, mae Tywyn wedi’i ddylunio gyda phwyslais ar ddefnyddio llai o ynni. O 24 Tachwedd ymlaen, bydd cyfle i ymwelwyr neidio ar gefn beic i gynhyrchu ynni drwy bedlo, ar gyfer addurniadau’r Ardd Furiog.
Dywedodd Rheolwr Castell Caeriw, Daisy Hughes:
“Mae sicrhau bod Tywyn mor ecogyfeillgar â phosib yn ganolog i’r digwyddiad yma, ac mae’r arddangosfa gyfan wedi’i dylunio er mwyn defnyddio llai o ynni na rhai teclynnau yn eich cartref.
“Mae’r goleuadau’n defnyddio oddeutu 85% yn llai o ynni na goleuadau ffilament traddodiadol, ac mae modd cynnal hyn i gyd trwy un soced. Y goleuadau LED mwyaf effeithiol am arbed ynni sy’n cael eu defnyddio yn ystod cyfnod y Nadolig, yn ogystal â goleuadau solar.”
Bydd llwybr o oleuadau disglair yn croesawu’r ymwelwyr ar hyd rhodfa’r Castell at yr Ardd Furiog, sydd wedi’i haddurno ar gyfer y Nadolig. Bydd arddangosfeydd hudolus a lliwgar, a choeden Nadolig hardd, yn creu gardd hudolus i’r teulu cyfan.
Bydd wyneb Dwyreiniol y Castell hefyd wedi’i oleuo rywfaint er mwyn cael effaith drawiadol a bydd hud y Nadolig yn parhau wrth i chi ddilyn y llwybr disglair tuag at y Castell.
Gall teuluoedd hefyd gymryd rhan mewn Llwybr Corachod yn rhad ac am ddim o amgylch gerddi’r Castell, a fydd ar gael yn Siop y Castell. Bydd Siop y Castell ar agor ar gyfer siopa Nadolig yn hwyr y nos gydag amrywiaeth o anrhegion unigryw a lleol. Cewch hefyd flas ar ffefrynnau Nadoligaidd yn Ystafell De Nest, gan gynnwys siocled poeth, gwin cynnes, a roliau twrci a llugaeron.
Ar y penwythnosau, o 26 Tachwedd ymlaen, bydd Sion Corn yn ei Groto hudolus yn yr Ardd Furiog rhwng 11am-5pm. Rydym yn codi tâl bychan er mwyn i chi ymweld â Sion Corn a chael anrheg. Mae’n rhaid i chi archebu lle. Ewch i wefan archeb Castell Caeriw i gael y manylion llawn ac i archebu eich lle i weld Sion Corn (agor mewn ffenest newydd).
Mae mynediad i Tywyn yn rhad ac am ddim a does dim angen archebu eich lle. Bydd yr arddangosfa ar agor rhwng dydd Iau a dydd Sul o 17 Tachwedd hyd at 18 Rhagfyr (4.30pm-8pm ar ddydd Iau a dydd Gwener a 3pm-8pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul). Bydd Tywyn hefyd ar agor 4.30pm-8pm rhwng dydd Llun 19 Rhagfyr a dydd Iau 22 Rhagfyr.
Ewch i www.castellcaeriw.com am y manylion llawn, gan gynnwys oriau agor y Castell a’r Ystafell De yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.