Y Parc Cenedlaethol yn cyhoeddi neges ‘troedio’n ysgafn’ wrth i Gymru ailagor i ymwelwyr
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i ymwelwyr ganolbwyntio ar ‘gadw’n ddiogel’ a ‘dangos parch’ er mwyn sicrhau bod yr ardal leol yn ffynnu dan strategaeth ôl-COVID sy’n ‘canolbwyntio ar yr amgylchedd’.
Mae ymwelwyr sy’n mynd draw am Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro’r penwythnos yma wedi cael gwybod y dylen nhw gynllunio ymlaen llaw er mwyn osgoi cael gormod o bobl mewn mannau poblogaidd ac er mwyn paratoi ar gyfer llai o gyfleusterau a newidiadau i rai gwasanaethau allweddol wrth i Gymru ddechrau ailagor yn araf i ymwelwyr am y tro cyntaf ers cyflwyno’r cyfyngiadau symud.
Gofynnir i’r rheini sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol barchu’r Parc, y cymunedau lleol a’i gilydd mewn ymdrech i leihau’r pwysau wrth i’r Awdurdod weithio i osgoi cael torfeydd fel y gwelwyd mewn mannau poblogaidd ymysg twristiaid ar draws y DU.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n gwybod bod pobl wedi gweld colli bod yn yr awyr agored a’r rhan bwysig mae natur yn ei chwarae i gefnogi iechyd ein cenedl. Rydyn ni eisiau annog pobl i fwynhau tirweddau naturiol Cymru yn ddiogel, yn gyfrifol ac, yn y pen draw, yn fwy cynaliadwy.”
Fel rhan o strategaeth twristiaeth pum cam i ymateb i COVID-19, nod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yw hybu newid cadarnhaol yn ymddygiad ymwelwyr er mwyn sicrhau dull gweithredu sy’n rhoi ‘natur a’r amgylchedd yn gyntaf’.
Agwedd allweddol ar y strategaeth hon yw canolbwyntio ar ganiatáu i natur barhau i ffynnu fel y mae wedi gwneud o dan y cyfyngiadau symud. Er enghraifft rydyn ni wedi gweld bywyd gwyllt yn nythu, yn bwydo neu’n hela mewn lleoliadau lle nad oedd hynny wedi digwydd llawer o’r blaen os o gwbl. Gofynnir i ymwelwyr barchu’r cynnydd mewn gweithgarwch naturiol fel rhan allweddol o’r profiad i ymwelwyr ac i droedio’n ysgafn – gan adael prin dim effaith ar y Parc.
“Mae’r cyfyngiadau symud wedi newid y ffordd rydyn ni gyd yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein hardaloedd yn yr awyr agored ac maen nhw wedi creu gwaelodlin newydd ar gyfer sut gallwn ni ymdrin â thwristiaeth yng Nghymru,” meddai Tegryn Jones.
“Rydyn ni’n gweithio gyda’n cymunedau lleol i gynnig croeso cynnes i’n hymwelwyr. Rydyn ni’n annog y rheini sy’n dewis dod i grwydro ein tirweddau dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, efallai am y tro cyntaf, i wneud hynny gyda pharch – at y bobl a’r bywyd gwyllt sy’n byw yma ac at ei gilydd.
“Rydyn ni eisiau gweithio gyda’n cymunedau, ein hymwelwyr a’n partneriaid i wneud i’r foment hon gyfri – i’r Parc Cenedlaethol nawr ac ar gyfer yr hyn fyddwn ni’n ei roi i genedlaethau’r dyfodol.”