Y rhandaliad olaf gan Ymddiriedolaeth Bannister i Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro yn garreg filltir o ran gwarchod coetiroedd

Posted On : 23/09/2024

Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi cael y rhandaliad olaf o £10,000 gan Ymddiriedolaeth Bannister, sy’n dod â’r cyfanswm i £30,000 dros y tair blynedd ddiwethaf. Defnyddir y cyllid i gefnogi ymdrechion hanfodol i warchod coetiroedd y Parc Cenedlaethol. Mae’r cyllid hwn wedi chwarae rhan bwysig yn gwella tirweddau naturiol Sir Benfro, cefnogi bioamrywiaeth a gwarchod cynefinoedd hanfodol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfraniadau Ymddiriedolaeth Bannister wedi galluogi’r gwaith o gynnal amrywiaeth o brosiectau sydd wedi bod o fudd i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan greu cydbwysedd hollbwysig rhwng y gwaith o ehangu gorchudd coetiroedd a gwarchod cynefinoedd hanfodol eraill. Mae’r ymdrechion hyn yn cefnogi bioamrywiaeth a’r broses o ddal a storio carbon, a hefyd yn meithrin cadernid ecolegol.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro:

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Bannister am eu cymorth cyson. Mae eu haelioni wedi ein galluogi ni i ymgymryd â phrosiectau cadwraeth hanfodol sy’n canolbwyntio ar adfywio naturiol a phlanhigion newydd. Mae pob cynllun wedi cael ei ddylunio i ddiwallu anghenion penodol sydd gan wahanol rywogaethau, gan chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o ddiogelu ac adfer yr ecosystem yn ei chyfanrwydd.”

Mae llwyddiannau 2024 yn cynnwys plannu dros 2,000 o goed brodorol ger Wdig, a chreu coridor 270 metr ar lan afon ger Llandyfái. Darparwyd offer hefyd i staff a gwirfoddolwyr yng Nghastell Caeriw i gynnal a chadw gwrychoedd wedi’u hadfer a choed a blannwyd yn ddiweddar, gan sicrhau bod llwybrau hedfan tywyll ar gael ar gyfer yr ystlumod o bwys rhyngwladol sy’n byw yno.

Yn Rhosfach, cynefin hanfodol i frith y gors a thitw’r helyg, gosodwyd ffensys i warchod coetiroedd helyg, gan ganiatáu i wartheg Dexter bori’r glaswelltiroedd corsiog. Ar safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn Mynachlog-ddu, ailgyflwynwyd dulliau pori traddodiadol ar gyfer gwartheg, gyda ffensys yn gwarchod coed i adfywio’n naturiol a llain gysgodi sydd o fudd i fywyd gwyllt, sy’n gweithredu fel rhwystr bioddiogelwch, ac sy’n cysylltu coetiroedd ar lan afonydd ar gyfer dyfrgwn.

Mae’r llwyddiannau eraill eleni’n cynnwys plannu 100 o goed ym Mhen-caer i wella cysylltedd cynefinoedd, a chysylltu dyffryn sy’n gyforiog o rywogaethau ym Mhontfaen â SoDdGAau coetir hynafol gerllaw drwy adfer 90 metr o wrychoedd.

Some fencing in a field

Ychwanegodd Katie Macro:

“Bydd y gweithgareddau hyn yn cynnal yr enillion a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol, ac yn sicrhau bod cynefinoedd coetir a gwrychoedd Sir Benfro yn parhau i ffynnu am genedlaethau i ddod. Mae cefnogaeth Ymddiriedolaeth Bannister wedi bod yn ganolog i’r ymdrechion hyn, ac edrychwn ymlaen at gwblhau’r prosiectau hyn gyda’r rhan olaf o’u cyllid hael.”

Mae’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod yn canolbwyntio ar wella cysylltedd cynefinoedd a chefnogi rhywogaethau allweddol ar draws sawl lleoliad. Bydd gwrychoedd a choed newydd yn cael eu plannu mewn caeau o amgylch Mynyddoedd y Preseli i greu llwybr teithio hanfodol rhwng Coedwig Pengelli a Chleddau Wen, gyda’r nod o gysylltu dwy boblogaeth fridio o ystlumod du, yr unig rai y gwyddom amdanynt yng Nghymru. Yn Freshwater East a Chreseli, bydd y gwaith ehangu gwrychoedd yn gwella cynefinoedd ar gyfer brithribiniau brown prin, tra bydd gwrychoedd ehangach yn y Garn yn darparu cynefin ychwanegol ar gyfer breision melyn, rhywogaeth sy’n destun pryder cadwraethol.

Bydd ymdrechion ychwanegol yn cynnwys plannu gwrychoedd newydd a choed ar ochr y ffordd yn Abereiddi ac Amroth i gysylltu cynlluniau gwrychoedd presennol, ynghyd â phlannu planhigion mewn caeau ym Mhen-caer i greu tirwedd fwy amrywiol o ran dolydd a choed. Y gobaith yw y bydd gwrychoedd newydd yn Mynachlog-ddu a Chas-mael yn cynnal titw’r helyg ac yn gwarchod safleoedd SoDdGA rhag effeithiau amaethyddol. Ac yn olaf, mae cynlluniau ar waith ar gyfer plannu coed ym Mrynberian i gysylltu Gwarchodfa Natur Tŷ Canol â safleoedd coetir eraill, gan ffurfio coridorau bywyd gwyllt sy’n hanfodol ar gyfer symudiad rhywogaethau ac amrywiaeth genetig.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a’r prosiectau cadwraeth eraill y mae’n eu cefnogi ledled Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ewch i https://ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru/.