Ymddiriedolaeth Elusennol Swire yn cefnogi prosiect Llwybrau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, er mwyn gwella cynhwysiant ym maes gwirfoddoli
Mae Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro wedi cael cefnogaeth hael gan Ymddiriedolaeth Elusennol Penfro i ehangu’r cyfleoedd gwirfoddoli cynhwysol sydd ar gael ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Mae’r prosiect Llwybrau yn rhoi cyfle i amrywiaeth o unigolion o gymunedau lleol i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwirfoddoli awyr agored. Mae’r fenter hon yn rhoi blaenoriaeth i hygyrchedd a chynhwysiant, ac yn cynnig cyfleoedd i unigolion na fyddent o bosibl yn gallu gwirfoddoli fel arall. Mae gweithgareddau’r prosiect wedi eu teilwra i’r gwirfoddolwyr ac maent yn cael eu harwain gan griw o wirfoddolwyr profiadol. Mae hyn yn darparu amgylchedd diogel a chroesawgar i wirfoddolwyr newydd ddysgu sgiliau a chydweithio.
Dywedodd Graham Peake, un o Arweinwyr y Prosiect Llwybrau:
“Mae cefnogaeth Ymddiriedolaeth Elusennol Swire wedi bod yn allweddol wrth sicrhau bod mwy o bobl yn cael cyfle i brofi manteision gwirfoddoli, a chyfrannu at brosiectau cadwraeth a threftadaeth yn y Parc Cenedlaethol. Mae’r prosiect Llwybrau yn gwella ein hamgylchedd naturiol ond mae hefyd yn meithrin ymdeimlad o gymuned a pherthyn.”
Yn 2024, fe wnaeth y prosiect Llwybrau gynnal 86 o sesiynau gwirfoddoli, ac fe wnaeth y gwirfoddolwyr sydd ynghlwm â’r prosiect gyfrannu 825.5 o ddiwrnodau gwaith gwirfoddol mewn mwy na 30 o safleoedd yn Sir Benfro. Fe gymerodd y gwirfoddolwyr ran mewn amrywiaeth o dasgau ymarferol a oedd yn ymwneud â chadwraeth a threftadaeth. Roedd y tasgau hyn yn cynnwys gweithio ar safleoedd archeoleg yn y gymuned drwy dorri eithin a helpu gyda’r gwaith cynnal a chadw henebion hynafol, yn ogystal â phlygu ac adfer cloddiau yn San Ffraid. Mae’r tasgau eraill a gwblhawyd gan ein gwirfoddolwyr yn cynnwys clirio prysgwydd a bondocio ym Mrynberian a Threfdraeth, cael gwared â rhywogaethau goresgynnol a phlannu coed er mwyn gwella bioamrywiaeth.
Bu’r gwirfoddolwyr hefyd yn brysur yn creu cynefinoedd newydd drwy blannu blodau gwyllt er mwyn gwella ecosystemau, a buont yn cynnal a chadw llwybrau a gwella mynediad at lwybrau er mwyn cefnogi diogelwch y cyhoedd a gwaith cadwraeth. Fel rhan o’r prosiect cafodd y gwirfoddolwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau arbenigol, fel taith gerdded adnabod ffyngau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Tŷ Canol a gosod hysbysfwrdd newydd yn Sain Gofan, Aberllydan.

Mae Llwybrau wedi cael dylanwad arwyddocaol ar y gymuned, gan roi cyfle i 30 a mwy o wirfoddolwyr i roi o’i hamser a defnyddio eu sgiliau. Mae’r gwerthusiadau a gynhaliwyd rhwng Tachwedd 2024 ac Ionawr 2025 yn tynnu sylw at fuddion cymdeithasol, corfforol a meddyliol y prosiect. Dywedodd y gwirfoddolwyr bod eu llesiant yn well, bod ganddynt gysylltiad gwell â byd natur, a’u bod yn teimlo’n dda am eu bod yn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.
Dywedodd Mitch Hill, un o Arweinwyr y Prosiect Llwybrau:
“Un o’r pethau gorau am weithio ar y prosiect hwn oedd cael gweld datblygiad personol ein gwirfoddolwyr. Mae nifer ohonynt wedi dysgu sgiliau newydd, magu hyder, ac wedi symud yn eu blaen i waith gwirfoddol arall, cyflogaeth, neu addysg.”
Yn ogystal â gwaith cadwraeth ymarferol, mae’r prosiect wedi rhoi hyfforddiant allweddol i’r gwirfoddolwyr a oedd yn arwain y gweithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant ar ymwybyddiaeth iechyd meddwl, hyfforddiant cymorth cyntaf, a hyfforddiant ar gydraddoldeb amrywiaeth a chynhwysiant. Mae’r buddsoddiad hwn mewn gwirfoddolwyr yn sicrhau dylanwad hirdymor a chynaliadwyedd y rhaglen.
Wrth i’r prosiect ehangu, nod Llwybrau yw cryfhau’r partneriaethau â mudiadau lleol fel Mind Sir Benfro a grwpiau cymunedol eraill, er mwyn cefnogi cronfa fwy amrywiol byth o wirfoddolwyr. Bydd cydweithio â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yr Ymddiriedolaethau Natur, a phartneriaid cadwraeth eraill yn sicrhau bod y rhaglen yn cael mwy o ddylanwad ar ymdrechion adfer natur.
Ychwanegodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro:
“Rydym ni’n ddiolchgar dros ben i Ymddiriedolaeth Elusennol Swire am wneud y prosiect Llwybrau yn bosibl. Mae eu cefnogaeth wedi ein galluogi i gyrraedd mwy o bobl, cyflawni gwaith cadwraeth, a dod â manteision hir dymor i’r amgylchedd a’r gymuned leol.”
Ewch i www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli i ddysgu rhagor am y Prosiect Llwybrau a chyfleoedd gwirfoddoli eraill yn y Parc Cenedlaethol.