Ymgynghori â’r cyhoedd ynghylch meysydd gwersylla dros dro yn y Parc Cenedlaethol
Cyn bo hir, bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn casglu barn y cyhoedd am effaith meysydd carafanau a gwersylla yn y Parc Cenedlaethol.
Yn ystod cyfarfod Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar 1 Mai 2024, cymeradwyodd Aelodau’r Awdurdod gynnig i ymgynghori â’r cyhoedd ar amrywiaeth o opsiynau arfaethedig i reoli meysydd carafanau a gwersylla’r parc. Nid yw’r ymgynghoriad yn ymdrin â meysydd gwersylla sydd â chaniatâd cynllunio, yn hytrach mae’n canolbwyntio ar feysydd gwersylla dros dro sy’n gweithredu o dan yr hyn a elwir yn hawliau datblygu a ganiateir.
Bydd adborth o’r ymgynghoriad yn helpu’r Awdurdod i lywio sut bydd yn ystyried hawliau datblygu a ganiateir yn y dyfodol, gan fod nifer o opsiynau’n cael eu hystyried ar hyn o bryd.
Un opsiwn y mae’r Awdurdod yn ei ffafrio yw cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, a fyddai’n golygu y byddai angen i weithredwyr meysydd gwersylla dros dro am 28 diwrnod yn y Parc Cenedlaethol gael caniatâd cynllunio.
Yr ail ddewis a ffafrir yw cyflwyno cod ymddygiad gwirfoddol ar gyfer sefydliadau sydd wedi’u heithrio, sydd ar hyn o bryd â’r hawl i redeg neu gymeradwyo meysydd carafanau a gwersylla heb fod angen caniatâd cynllunio na thrwydded.
Ar hyn o bryd, mae 7,500 o leiniau gwersylla a charafanio o fewn ffiniau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, sydd naill ai â chaniatâd cynllunio neu’n gweithredu o dan dystysgrif eithrio. Erbyn hyn, mae nifer sylweddol o feysydd gwersylla ‘dros dro’ yn gweithredu o dan y Rheol 28 Diwrnod.
Fodd bynnag, mae pryderon wedi’u codi yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd bod mwy a mwy o weithredwyr yn peidio â chadw at yr hawliau datblygu 28 diwrnod a ganiateir, gyda nifer o feysydd gwersylla dros dro yn aros ar agor am gyfnod llawer iawn hirach – hyd at 6 mis o’r flwyddyn.
Dywedodd Sara Morris, Cyfarwyddwr Creu Lleoedd Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Er bod y mathau hyn o ddatblygiad wedi cyfrannu’n sylweddol at nifer y lleiniau gwersylla a charafanio sydd yn y Parc Cenedlaethol, mae hefyd wedi arwain at ragor o feysydd gwersylla newydd yn cael eu hagor heb orfod wynebu’r un lefel o graffu ac ymgynghori cyhoeddus a meysydd gwersylla eraill sy’n mynd drwy’r broses ceisiadau cynllunio swyddogol.
“Yn ogystal â rhoi straen ar allu’r Awdurdod i gyflawni ei brif ddiben statudol, sef gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth y Parc Cenedlaethol, mae’r sefyllfa bresennol hefyd yn tanseilio ein gallu i gynllunio’n briodol ar gyfer yr ardal a mynd ar drywydd strategaeth twristiaeth adfywiol.”
Yn 2015, fe wnaeth y Parc Cenedlaethol gomisiynu astudiaeth i weld beth yw’r capasiti o ran gallu cynnwys rhagor o feysydd gwersylla yn y Parc Cenedlaethol heb niweidio’r dirwedd. Y casgliad oedd mai dim ond capasiti cyfyngedig iawn sydd mewn rhai lleoliadau, tra bod lleoliadau eraill eisoes yn llawn.
Yn ogystal â hyn, roedd gweithdai anffurfiol a gynhaliwyd gydag ymgymerwyr statudol ddiwedd 2023 yn tynnu sylw at bryderon ynghylch effeithiau posibl ar ansawdd a chapasiti dŵr, yn ogystal â’r pryderon hyn ynghylch y dirwedd.
Bydd yr ymgynghoriad, a fydd yn cael ei lansio ddiwedd mis Mai, yn para tan 5pm ddydd Gwener 20 Medi 2024 a bydd ar gael yn www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/ymgynghoriadau-cyhoeddus/.
Yn dilyn adborth gan y cyhoedd, bydd yr Aelodau’n ystyried y camau nesaf i’w cymryd. Os bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei ddewis fel yr opsiwn a ffafrir, bydd hysbysiad ffurfiol ynghylch y broses hon yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref 2024 a bydd cyfle i roi ymatebion ffurfiol i’r Awdurdod dros gyfnod o dri mis. Yna, byddai unrhyw Gyfarwyddyd Erthygl 4 o’r fath yn cael ei gyflwyno yn hydref 2025.