Ymgynghoriad Cynllun ac Amcanion Cydraddoldeb Drafft

Posted On : 27/11/2024

Gofynnir i aelodau’r cyhoedd roi eu barn ar Gynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Amcanion yr Awdurdod am y pedair blynedd nesaf.

Mae’r cynllun drafft ar gyfer 2025-2029 yn disgrifio’r modd y mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn bwriadu parhau â’i ymrwymiad i gydraddoldeb a’r modd y bydd yr Awdurdod yn bodloni’r rhwymedigaethau cyfreithiol a gynhwysir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu yn dilyn

  • adolygiad o’r ymchwil cysylltiedig a’r dogfennau polisi
  • y camau ymlaen a gymerwyd o ran ein hamcanion cydraddoldeb presennol
  • yr ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd ar y cyd â sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus eraill ar hyd a lled De-orllewin Cymru yn ystod 2023

Cyn i’r cynllun terfynol gael ei gyflwyno gerbron yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, gofynnir i’r cyhoedd a ydynt yn cytuno â’n blaenoriaethau, a gwneud unrhyw sylwadau ar y cynllun drafft.

Cliciwch yma i weld y dogfennau ategol ac i gwblhau’r arolwg.

A fyddech gystal â llenwi a chyflwyno eich arolwg erbyn 17 Ionawr 2025