Ymunwch â’r Penwythnos Gwirfoddoli Mawr ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro a gwneud gwahaniaeth
I ddathlu cyfraniadau anhygoel gwirfoddolwyr ac i ysbrydoli mwy o bobl i gymryd rhan, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn edrych ymlaen at gynnal Diwrnod Gwirfoddoli Cyhoeddus yn Nwyrain Freshwater fel rhan o Benwythnos Gwirfoddoli Mawr y Parc Cenedlaethol ddydd Sadwrn, 21 Medi.
Rhwng 10am a 3pm, gwahoddir cyfranogwyr o bob oed a gallu i ymuno â gweithgareddau cadwraeth ymarferol yn Nwyrain Freshwater. Bydd gwirfoddolwyr yn cael cyfle i glirio rhywogaeth oresgynnol helygen y môr, gwella mynediad i’r traeth, ymuno â grŵp casglu sbwriel, a dysgu sut mae adnabod a chofnodi gwenyn a glöynnod byw. Mae’r digwyddiad hwn yn ffordd ymarferol o ymgysylltu â natur a chefnogi ymdrechion cadwraeth yn y dirwedd arfordirol drawiadol yma.
Dywedodd Rebecca Evans, Swyddog Datblygu Gwirfoddoli yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro:
“Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o helpu i ofalu am dirweddau anhygoel ein Parciau Cenedlaethol yn ogystal â threulio amser yn yr awyr agored, dysgu sgiliau newydd a chwrdd â phobl arbennig. Mae’n gwneud lles i unigolion a’r amgylchedd fel ei gilydd, gyda’r ddau’n elwa o’r ymdrech.
“Byddem wrth ein bodd pe bai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn dod i gymryd rhan a helpu i warchod y lleoedd hardd hyn. Gallwch ymuno am ddiwrnod neu gofrestru i wneud mwy – beth bynnag fo’ch cyfraniad, bydd yn cael effaith barhaol.”
I gofrestru eich diddordeb ac i ddysgu mwy am y digwyddiadau, anfonwch neges e-bost at volunteering@pembrokeshirecoast.org.uk.
Mae rhagor o wybodaeth am wirfoddoli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro ar gael yn https://www.arfordirpenfro.cymru/cymryd-rhan/gwirfoddoli/.