Ymwelwyr yn cael eu hannog i beidio ag ymweld â’r Parc Cenedlaethol y penwythnos hwn
Mae pobl yn cael eu hannog i ddilyn arweiniad presennol Llywodraeth Cymru ac i beidio â theithio i Barc Cenedlaethol Arfordir Penfro y penwythnos hwn gan fod meysydd parcio’r arfordir a’r rhan fwyaf o Lwybr Arfordir Penfro yn dal ar gau.
Mae’r holl gyfleusterau a gwasanaethau o amgylch y Parc Cenedlaethol yn dal ar gau ac mae Awdurdod y Parc yn gofyn i bobl fod yn amyneddgar wrth iddynt baratoi i ymateb i arweiniad diwygiedig y Llywodraeth ac ailagor mynediad at yr arfordir pan fydd yn ddiogel gwneud hynny.
Dywedodd Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydyn ni’n gwerthfawrogi cymaint y mae pobl yn gweld eisiau’r Parc Cenedlaethol, gan gynnwys y traethau a mynediad at yr awyr agored, ond rydyn ni’n gofyn i bawb fod yn amyneddgar.
“Er bod y cyfyngiadau o ran cwrdd ag eraill allan yn yr awyr agored yn llacio yng Nghymru o ddydd Llun 1 Mehefin ymlaen, mae’n hollbwysig bod pobl yn dilyn y cyngor i aros yn lleol, i deithio dim mwy na phum milltir ac i osgoi mannau poblogaidd a llefydd prysur lle bo hynny’n bosib.
“Dydy’r Parc Cenedlaethol ddim yn barod i dderbyn niferoedd uchel o ymwelwyr mewn mannau poblogaidd, felly rydyn ni’n gofyn i bobl ddefnyddio’r rhyddid newydd hwn, o ddydd Llun ymlaen, yn ofalus ac yn gyfrifol.
“Rydyn ni’n gofyn i bobl ddilyn ein tair rheol bwysig – parchu’r tir, parchu’r gymuned a pharchu ein gilydd – wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio”.
Bydd Llwybr Arfordir Penfro a’r meysydd parcio yn aros ar gau wrth i’r Awdurdod ymgynghori â chymunedau lleol ac edrych ar gynlluniau i agor mewn ffordd sy’n blaenoriaethu diogelwch defnyddwyr lleol.
Ychwanegodd Tegryn Jones: “Ein blaenoriaeth yw diogelu’r rheini sy’n ymweld â’r Parc Cenedlaethol, ein staff, a’r cymunedau sydd o fewn y Parc ac yn y cyffiniau. Bydd gwasanaethau’n ailagor yn fuan ond rydyn ni’n annog pobl i fod yn amyneddgar am y tro ac aros yn lleol.”
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fynediad i’r Parc Cenedlaethol yn www.arfordirpenfro.cymru. Caiff y wybodaeth ei diweddaru pan fydd y cyfleusterau’n ailagor.