Ysgolion Sir Benfro yn dathlu’r awyr agored
Cynhaliwyd y Diwrnod Dathlu Awyr Agored cyntaf ers 2018 gan Ysgol Awyr Agored Sir Benfro yn Maenordy Scolton ddydd Iau 26 Mai.
Mae Partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, sy’n cael ei gydlynu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn rhwydwaith o sefydliadau arbenigol, penaethiaid ac ymgynghorwyr yr awdurdod lleol. Ei nod yw cefnogi ysgolion i annog plant i ymgysylltu’n llawn â’u hamgylchedd lleol, a bod yn gwbl hyderus yn yr amgylchedd hwnnw.
Mynychwyd Diwrnod Dathlu Awyr Agored eleni gan 130 o fyfyrwyr o Ysgol Gymunedol Croesgoch, Ysgol Gynradd Gelliswick sy’n Ysgol Wirfoddol a Reolir gan yr Eglwys yng Nghymru, Ysgol Gelli Aur, Ysgol Gymunedol Johnston, Ysgol Llandyfái, Ysgol Gymunedol Neyland, Ysgol Penrhyn Dewi, Ysgol WG yr Eglwys yng Nghymru Sant Oswallt ac Ysgol San Marc.
Ar ôl cyflwyniadau a sgwrs groeso gan Gydlynydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Bryony Rees, dyfarnwyd gwobr Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro i bob ysgol gan Tegryn Jones, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Chadeirydd Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Graham Peake. Roedd hyn i gydnabod eu cynnydd a’u cyflawniadau gyda dysgu yn yr awyr agored dros y blynyddoedd diwethaf.
Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai yn y goedwig ac ar y lawnt gydag Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Tîm y Cyfnod Sylfaen yng Nghyngor Sir Penfro, Canolfan Darwin, Chwaraeon Sir Benfro a Tir Coed. Roedd y gweithgareddau’n cynnwys helfeydd bwystfilod bach, adeiladu gyda deunyddiau naturiol, crefftau tân, adnabod coed, gweithgareddau byw yn y gwyllt a gemau’r gymanwlad.
Dywedodd Bryony Rees: “Roedd pawb yn mwynhau’r digwyddiad, gydag un disgybl yn dweud ei fod wedi cael y diwrnod gorau yn y ‘maes chwarae natur’. Roedd cynrychiolwyr o Ysgolion Cynaliadwy, Cadwch Gymru’n Daclus (Eco-Ysgolion) a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol hefyd wrth law i gysylltu ag athrawon, rhannu syniadau a thrafod sut y gellid datblygu dysgu yn yr awyr agored mewn ysgolion yn unol â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru.”
I gael rhagor o wybodaeth am Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, cysylltwch â bryonyr@pembrokeshirecoast.org.uk, ffoniwch 07870 488014 neu ewch i wefan Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro: https://pembrokeshireoutdoorschools.co.uk/cy/hafan-2/.