Yma yn Oriel y Parc mae amrywiaeth o arddangosfeydd gan artistiaid a chrefftwyr o Sir Benfro i’w gweld drwy'r Ganolfan Ymwelwyr cyfan.
Mae yna Oriel o’r radd flaenaf hefyd, sy’n arddangos celf ac arteffactau o gasgliadau Amgueddfa Cymru.
Mae Oriel y Parc yn gydweithrediad unigryw rhwng Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro lle mae gwasanaethau i ymwelwyr yn dod law yn llaw ag arddangosfeydd o gasgliadau cenedlaethol i ddathlu’r tirlun.
Gan ddefnyddio gwrthrychau o gasgliadau celf, hanes naturiol a diwydiant Amgueddfa Genedlaethol Cymru, mae ymwelwyr yn gallu gweld rhaglen o arddangosfeydd gwahanol.
Yn y Ystafell Tyddewi ceir arddangosfa o baentiadau, printiau ac ysgythriadau, tra bo’r Ystafell Ddarganfod yn cynnwys gofod arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherfluniau.