Cystadleuaeth cyfryngau cymdeithasol Geiriau Diflanedig
Cyfle i ennill copi o Geiriau Diflanedig neu The Lost Words wedi ei arwyddo gan Jackie Morris!
I gyd-fynd ag arddangosfa Geiriau Diflanedig yn Oriel y Parc, bydd un copi caled o Geiriau Diflanedig (wedi ei arwyddo) yn cael ei rhoi i ffwrdd bob mis rhwng y sianeli Cymraeg canlynol:
Arfordir Penfro: @ArfordirPenfro ar Facebook, @ArfordirPenfro ar Instagram and @ArfordirPenfro ar X (Twitter.com).
Oriel y Parc: @OrielyParcTyddewi ar Facebook, @OyPTyddewi ar Instagram, @OyPTyddewi ar X (Twitter.com).
Hefyd, bydd un copi caled o The Lost Words (wedi ei arwyddo), yn cael ei roi i ffwrdd bob mis rhwng y sianeli Saesneg canlynol:
Pembrokeshire Coast: @PembrokeshireCoast ar Facebook, @PembsCoast ar Instagram and @PembsCoast ar X (Twitter.com).
Oriel y Parc: @OrielyParc ar Facebook, @OrielyParc ar Instagram, @OrielyParc ar X (Twitter.com).
Telerau ac amodau
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i drigolion y Deyrnas Unedig (DU).
- Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal ar draws Facebook, Instagram a X (Twitter.com).
- Mae’r cystadlaethau yn cael ei threfnu, ei hyrwyddo a’i chyflawni gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro (APCAP) ag Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc.
- Nid oes tâl mynediad ac nid oes angen prynu unrhyw beth er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Dim ond unwaith y cewch chi wneud cais ar bob platform cyfryngau cymdeithasol wahanol, bob mis.
- Ni chaniateir unrhyw geisiadau pellach ar ôl y dyddiad cau a nodir (bydd un dyddiad cau bob mis o Awst 2023 i Ebrill 2024).
- Ni ellir derbyn unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau neu wobrau nas derbynnir am ba bynnag reswm.
- Mae APCAP yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau ac amodau hyn heb rybudd os oes angen, oherwydd materion y tu allan i reolaeth APCAP. Bydd APCAP yn rhoi gwybod i ymgeiswyr am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosibl.
- Mae’r wobr fel y nodir ac ni chynigir arian parod neu ddewisiadau eraill. Nid yw’r gwobrau yn drosglwyddadwy. Mae gwobrau yn amodol ar argaeledd ac mae APCAP yn cadw’r hawl i gyfnewid unrhyw wobr heb roi rhybudd.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu dewis ar hap o blith yr holl gynigion cywir a dderbynnir.
- Bydd yr enillwyr yn cael eu hysbysu trwy ymateb ar y sianel cyfryngau cymdeithasol y gwnaethant gofrestru arni o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad cau. Os na fydd yr enillydd yn ymateb o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad, mae APCAP yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi ar yr enillydd a dewis enillydd arall.
- Bydd APCAP yn hysbysu’r enillydd pryd a ble y gellir casglu/draddodi’r wobr.
- Bydd penderfyniad APCAP ar bob mater sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol ac ni fydd unrhyw ohebiaeth.
- Wrth gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, mae ymgeisydd yn nodi ei fod yn cytuno i fod yn rhwym i’r telerau ac amodau hyn.
- Wrth hyrwyddo’r gystadleuaeth hon nid yw APCAP yn bwriadu gwneud unrhyw gytundeb y gellir ei orfodi’n gyfreithiol gyda’r bobl hynny sy’n dewis cymryd rhan.
- Nid yw’r rhodd mewn unrhyw ffordd yn cael ei noddi, ei chymeradwyo, ei gweinyddu gan Meta (Facebook ac Instagram) nac X (Twitter.com), nac yn gysylltiedig â nhw.