Nodwch, mae'r arddangosfeydd hyn bellach wedi cau.
Mae gweithiau o gasgliad Sutherland Amgueddfa Cymru wedi ymddangos mewn cyfres o arddangosfeydd wedi'u curadu yn Oriel y Parc.
Sutherland yn Oriel y Parc
Mae nifer o weithiau mwyaf adnabyddus Sutherland wedi’u hysbrydoli gan arfordir gwyllt Sir Benfro. Ar ôl ei farwolaeth yn 1980, datgelwyd ei fod am adael casgliad i Gymru oherwydd ei fod yn teimlo ‘ar ôl ennill cymaint o’r wlad hon, hoffwn roi rhywbeth yn ôl’.
Dyma rai o’r arddangosfeydd blaenorol sy’n cynnwys gwaith Graham Sutherland:
Hanesion yr Heli: Uwchben, Islaw a Thu Hwnt i’r Llanw
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys amrywiaeth eang o weithiau celf o’r artist Cyn-Raffaelaidd Edward Burne-Jones, artistiaid Cymreig Ceri Richards a Richard Wilson, enghreifftiau o artistiaid yr 20fed ganrif fel David Jones i waith mwy cyfoes gan Jem Southam, Jennie Savage a Marcus Coates. Ceir hefyd waith gan Gavin Turk, morlun gan yr artist a aned yn Ninbych-y-pysgod, Augustus John, ac enghreifftiau o disglau pren a sgrimshaw arforol sydd ar fenthyg o gasgliad preifat. Bydd hefyd detholiad o ddarnau gan yr artist Prydeinig Graham Sutherland yn cael eu harddangos.
Bwrw Gwreiddiau: Sutherland a’r Dirwedd Ramantaidd
Mae’r arddangosfa hon yn dangos sut y datblygodd celf tirwedd Sutherland cyn ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae’n cynnwys tirweddau Neo-Rhamantaidd eraill o gasgliad Amgueddfa Cymru, gan gynnwys artistiaid fel Paul Nash, John Piper a Ceri Richards.
Arddangosfa Sidney Nolan a Graham Sutherland: Ymdeimlad o Le
Archwiliwch fyth, chwedl a thirwedd trwy waith Sidney Nolan (1917-1992), un o artistiaid pwysicaf Awstralia yn yr 20fed ganrif. Mae hwn yn arddangosfa ar y cyd gyda’r artist Graham Sutherland (1903-1980), sy’n ystyried eu hymdeimlad o le.