Nodwch, mae'r arddangosfa hon bellach wedi cau.
Yn Tir/Môr mae Mike Perry yn tynnu ein sylw at yr argyfwng hinsawdd sy’n gwaethygu fan hyn yng Nghymru.
Mae’r arddangosfa bwerus hon o ffotograffiaeth tirluniau yn herio ffyrdd confensiynol o edrych ar ein harfordir a chefn gwlad, ac yn agor ein llygaid i ystyried perthynas fregus cymdeithas â byd natur. Mae gwaith Perry yn cymell sgwrs am sut i fynd ati i adfer ecosystemau iach a thirlun mwy gwyllt.
Oriel ar-lein
Ynglŷn â'r Artist
Mae Mike Perry yn byw ac yn gweithio yn Sir Benfro, lle gwnaeth lawer o’r gwaith sydd yn y sioe hon. Mae ei ffotograffiaeth tirwedd gyfoes yn datgelu’r gwrthdaro rhwng gweithgareddau dynol a’r angen dybryd i fynd i’r afael â’n problemau amgylcheddol. Dysgwch fwy ar wefan Mike Perry.
Recordiadau Digwyddiadau Ar-lein
Tirweddau i’r dyfodol? Trafodaeth digidol. Cadeirir gan y darlledwr Jamie Owen. (Isdeitlau Cymraeg)
Mae’r Jamie Owen yn ymuno â’r artist Mike Perry, Dr Sarah Beynon, cadwraethwr a sylfaenydd Bug Farm Tyddewi, Ian Rickman, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ac Aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Dr Rosie Plummer. Cewch glywed yr arbenigwyr hyn yn trafod yr heriau sydd o’n blaenau, y newidiadau sy’n gallu gwneud gwahaniaeth, a sut gallwn ni elwa o adfer byd natur.
Mike Perry a Bronwen Colquhoun ‘Mewn Sgwrs’ (Isdeitlau Cymraeg)
Mae’r ffotograffydd tirwedd gyfoes, Mike Perry yn ymuno ag Uwch Guradur Ffotograffiaeth yn Amgueddfa Cymru, Bronwen Colquhoun mewn sgwrs yn trafod y themâu, y dulliau a’r cymhelliant y tu ôl i waith Mike.
Prosiect Ysgol Gynradd St Monica
Yn Nhymor yr Hydref 2021, gweithiodd Ffotogallery gyda phlant Ysgol Gynradd St Monica’s yn Cathays, Caerdydd, i ymchwilio effeithiau llygredd ar ein traethau lleol yn Ne Cymru. Cafodd y prosiect Ysgol Gynradd St Monica ei ysbrydoli gan waith yr artist Mike Perry, ei arddangosfa Tir/Môr, ac yn arbennig ei gorff o waith, Môr Plastig.
Sut gallwn ni wneud ein tirweddau’n fwy gwyllt?
Rhannwch eich ymateb i Tir/Môr ac ymunwch yn y sgwrs ar-lein.
#tirmor
Ffilmiau (dolenni i gynnwys allanol)
Sain (dolenni i gynnwys allanol)
Pecyn Addysg (dolenni i gynnwys allanol)
Helpu i Adfer Natur
Mae llawer y gallwch ei wneud i helpu i adfer natur, mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a glanhau llygredd plastig!
- Gallech ddechrau garddio ar gyfer natur. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru – Garddio ar gyfer Bywyd Gwyllt
- Glanhau traeth am 2 funud. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan Digwyddiadau Glanhau Traeth – Cyngor Sir Benfro
- Cymryd rhan yn Y Cyfrifiad Gloÿnnod Byw. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â gwefan Y Cyfrifiad Gloÿnnod Byw
- Gwirfoddoli. Grŵp cymunedol lleol yw EcoDewi sy’n trefnu prosiectau cynaliadwyedd ar Benrhyn Tyddewi. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â thudalen Facebook EcoDewi
Gwirfoddoli gyda’r Parc Cenedlaethol
- Mae dewis eang o gyfleoedd ar gael, o waith cadwraeth ymarferol i gymorth cefn swyddfa. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’n tudalen Gwirfoddoli,.
Defnyddio Ffotograffiaeth i Olrhain Newid Hinsawdd
- Mae Arfordir ar Daith yn dogfennu effeithiau newid yn yr hinsawdd ar erydu arfordirol drwy ofyn i’r cyhoedd dynnu lluniau mewn lleoliadau allweddol a’u cyflwyno i ni. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’n tudalen Arfordir ar Daith.
Helpu Perchnogion Tir i Wneud Gwahaniaeth
- Mae Gwarchod y Parc yn gynllun gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol sy’n chwarae rôl arbenigol wrth weithio gyda pherchnogion tir lleol i adfer cynefin bywyd gwyllt er budd amrywiaeth o flodau gwyllt, gloÿnnod byw, adar, mamaliaid ac ymlusgiaid. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â’n tudalen Gwarchod y Parc.
Arddangosfa deithiol gan Ffotogallery yw Tir/Môr wedi ei churadu gan David Drake, Cyfarwyddwr Ffotogallery, a Ben Borthwick.