Cliciwch y mân-luniau i weld fersiwn fwy o'r ddelwedd a chapsiwn y ddelwedd.
Esgid 22 Playa Santa Maria, Hafana, Ciwba, 2015Mae gwadn plastig yr esgid blatfform hon yn edrych fel bloc o fflatiau. Edrychwch yn ofalus a gallwch weld creaduriaid môr bychan yn byw tu mewn iddi. Caiff plastig ei greu o olew crai wedi ei buro, a gafodd ei ffurfio o weddillion plancton a gwymon oedd yn byw filiynau o flynyddoedd yn ôl. Mae hyn yn ein hatgoffa fod natur yn adfeddiannu deunyddiau sydd wedi eu creu gan ddyn. Os yw’n fwriad gennym neu beidio, mae ein hymddygiad yn effeithio’r ecosystemau o’n cwmpas, nad ydym fyth wedi ein gwahanu oddi wrthynt yn llwyr.
Fflip Fflop 29, Playa Santa Maria, Hafana, Ciwba, 2015Mae’r artist yn dod o hyd i fflip fflops ar bron bob traeth y mae’n ymweld â nhw. Wedi eu masgynhyrchu ac yn hawdd i’w canfod mewn unrhyw liw o’ch dewis, maen nhw’n cael eu gwisgo ym mhob gwlad dros y byd. Ond nid ydynt yn para’n hir. Maen nhw’n un o brif symbolau ein diwylliant o daflu pethau i ffwrdd. Fan hyn, mae cregynbysgod yn porthi ar yr hyn y mae pobl wedi gadael ar eu holau. Dyma sut mae’r cemegau niweidiol mewn plastig yn treiddio i’r gadwyn fwyd.
Fflip Fflop 13, Traeth Saadani Tanzania, 2013Mae natur wedi creu ei fychanfyd ei hun ar y fflip fflop amddifad hon. Mae’r marciau tyner hyn yn debyg i afonydd bach. Wrth edrych ar y ffotograffau hyn, ydych chi’n meddwl am eich ôl troed eich hun?
Dryswch y Drysni Ffynnonofi, Sir Benfro, Cymru 2019Cafodd y ddelwedd hon ei chreu drwy osod dau ffotograff fel haenau ar ben ei gilydd: draenen ddu yn blodeuo yn y gwanwyn, a draenen wen yn yr hydref. Dyma ffordd yr artist o adrodd stori newid hinsawdd a dryswch natur. Mae tywydd annhymhorol yn peri i rywogaethau brodorol flodeuo ar adegau anarferol. Mae’r aeron coch heb eu cyffwrdd, ac mae hynny’n awgrymu bod llai o adar gwyllt o gwmpas. Roedd cwymp o 57% ym mhoblogaethau adar tir fferm y DU rhwng 1970 a 2018. Yng Nghymru, o’r 10 aderyn gwyllt sy’n lleihau fwyaf, rhywogaethau tir fferm yw hanner rhain.
Carton Llysiau Glas, Freshwater West, Sir Benfro, Cymru 2016Mae’r môr yn treulio’r cerrig mawr yn gerrig mân, a chregyn yn dywod. Mae’r un peth yn digwydd i’r gwrthrychau plastig yn y môr. Maen nhw’n torri lawr yn ddarnau llai a llai. Mae meicroblastigau o’r fath yn cael eu canfod ymhobman bellach - mewn tywod, ar gopa mynyddoedd, mewn afonydd, mewn glaw, mewn pridd, yn ein bwyd, ac yn ein cyrff. Dyma’r hyn sy’n weddill o garton llysiau ar ôl treulio amser yn y môr. Mae rhwydi a gridiau fel hyn yn berygl i adar môr.
Draenen Wen Ffust, Sir Benfro, Cymru 2020Mae’r artist yn defnyddio’r goeden hon i gynrychioli’r tensiwn rhwng rheoli’r tirlun ar gyfer cynhyrchu bwyd a’i reoli ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt. Mae defnyddio dull mecanyddol o reoli’r tir wedi cael effaith negyddol ar goetrychau yn yr 80 mlynedd ddiwethaf. O ganlyniad, mae niferoedd adar tir fferm a phryfed wedi cwympo.
Mae sgiliau plygu gwrych traddodiadol wedi cael eu colli ond diolch i waith Awdurdod y Parc Cenedlaethol a chynlluniau megis Tir Gofal a Glastir, ceir cefnogaeth i ffermwyr sydd eisiau adfer coetrychoedd a chynefinoedd bywyd gwyllt eraill ar eu tir.
Eithin Llosg, Preseli, Bryniau Preseli, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymru 2005Yn debyg i olygfa o ffilm ryfel, mae’r ffotograff hwn yn ymbil arnom i feithrin perthynas mwy cytbwys gyda natur. Dull traddodiadol o gynnal tir pori yw llosgi eithin. Ond mae amgylcheddwyr yn dadlau ei fod yn dinistrio cynefinoedd adar gwyllt ac yn rhyddhau carbon i’r atmosffêr, sy’n rhwystr yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd. Mewn rhai achosion fodd bynnag, gall llosgi rhostir fesul darn wella bioamrywiaeth. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweithio gyda ffermwyr i leihau’r effeithiau niweidiol.
Mainc, Gwarchodfa Natur Cwm Elan, Powys, Cymru 2015Ai golygfa hardd o gefn gwlad ddilychwin yw hon? Neu ai tirlun yw hwn y mae canrifoedd o bori defaid wedi ei ddinoethi? Mae’r artist yn defnyddio’r fainc hon, sydd ar lwybr twristaidd yn y canolbarth, fel man cychwyn ar gyfer trafod safbwyntiau gwrthgyferbyniol ynghylch sut y dylai ein ucheldiroedd edrych, a sut y dylid eu defnyddio.
Tir Comin, Mynydd Dinas, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymru 2019Yn adleisio paentiadau’r 19eg ganrif o’r “bugeiliol” - neu fywyd gwledig delfrydol - tynnwyd y llun hwn mewn llecyn picnic poblogaidd yn Sir Benfro. A yw’n dangos natur mewn cytgord, neu a yw’r artist yn awgrymu rhywbeth gwahanol?
Bleek, Cynnyrch Glanhau Domestig, Freshwater West, Sir Benfro, Cymru 2017Mae glanhawyr traeth gwirfoddol yn gwneud gwaith arwrol, yn gwaredu tunelli o lygredd plastig o’n glannau. Ond mewn llefydd eraill, mae’r reddf i gadw pethau’n lân a thaclus yn gallu mynd yn rhy bell! Weithiau, y mannau anniben a disylw sy’n creu’r cynefin gorau ar gyfer bywyd gwyllt. Felly rhowch eich peiriant torri gwair i’r neilltu a lluniwch ddôl blodau gwyllt yn eich gardd gefn. Gadewch i’r drysi ddrysu a gwnewch y mwyaf o bob gofod sydd ar gael i natur!
Cynwysyddion Haniaethol, Gwyrdd, Glas, Pinc ac Oren, Niwgwl, Sir Benfro, Cymru 2015Beth yw morlun? Ai rhywbeth y mae artist yn ei baentio, neu rywbeth y mae’r môr yn ei greu? Mae’r artist yn disgrifio’r rhain fel morluniau ‘parod’. Ffotograffiodd ochrau’r cynwysyddion plastig a olchwyd i’r lan ar y llanw. Caiff y marciau eu creu gan natur, nid pobl, ac maen nhw’n herio syniadau traddodiadol am gynrychiolaeth. Mae eu palét o liwiau diwydiannol yn wahanol iawn i’r lliwiau a welwn mewn darluniau mwy rhamantaidd o lan y môr. Maen nhw’n cofnodi effaith dyn ar natur ac effaith natur ar yr hyn a wnaed gan law dyn.
Eithin Gwyrdd, Ffynnonofi, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymru 2004Ar yr olwg gyntaf mae’n bosib mai golygfa yn edrych lawr ar goedwig law drofannol yw hon. Coedwigoedd glaw yw ysgyfaint y blaned, y llefydd mwyaf bioamrywiol ar y Ddaear. Rydym yn dechrau dychmygu coed anferthol yn llawn miloedd o adar, ystlumod, mamaliaid bychan, cennau, mwsogl a rhedyn. Wrth edrych yn agosach, gwelwn mai un rhywogaeth yw’r holl goed yr ydym yn edrych arnynt – eithin – ac mai ychydig droedfeddi o uchder yn unig ydynt. Mae’r artist yn defnyddio’r talp o wyrdd unlliw hwn i ddarlunio’r problemau ecolegol sy’n codi o ffermio ungnwd. Lle’r oedd coedwigoedd glaw tymherus yn sefyll ar un adeg, ydyn ni’n fodlon mai hwn fydd yr unig beth ar ôl o’r ‘gwyllt’?
Ewyn wedi’i Bigo, Porth Ceiriad, Penrhyn Llŷn, Cymru, 2016Wrth ddewis beth i dynnu llun ohono, mae’r artist yn edrych am wrthrychau sy’n ysgogi atgofion am amseroedd a llefydd eraill. Mae hwn yn edrych fel tabled marmor wedi ei arysgrifio gyda thestun hynafol. Ond cafodd y marciau eu crafu gan adar môr llwglyd wrth iddynt chwilio am fwyd. Caiff adar môr marw eu canfod yn aml gyda’u stumogau’n llawn plastig. Mae palod, gwylanod coesddu a hyd yn oed gwylanod penwaig ar restr goch yr RSPB o adar sydd angen help ar frys.
Wrth ddewis beth i dynnu llun ohono, mae’r artist yn edrych am wrthrychau sy’n ysgogi atgofion am amseroedd a llefydd eraill. Mae hwn yn edrych fel tabled marmor wedi ei arysgrifio gyda thestun hynafol. Ond cafodd y marciau eu crafu gan adar môr llwglyd wrth iddynt chwilio am fwyd. Caiff adar môr marw eu canfod yn aml gyda’u stumogau’n llawn plastig. Mae palod, gwylanod coesddu a hyd yn oed gwylanod penwaig ar restr goch yr RSPB o adar sydd angen help ar frys.Mae gan yr artist ddiddordeb yn hanes y grid fel symbol o foderniaeth a delfrydau iwtopaidd. Mae gridiau plastig fel yr un yma, wedi ei olchi i’r traeth yng ngogledd Cymru, yn lladd miloedd o adar môr bob blwyddyn. Yn cael ei offrymu yn ôl i ni gan natur, daw’r grid hwn yn symbol dystopaidd o’r niwed a wneir i’r amgylchedd.
Clefyd Coed Ynn, Golau Lleuad, Ffynnonofi, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Cymru, 2019“Does dim angen i chi fynd i’r Arctig i weld cwymp byd natur. Mae yma ar garreg ein drws, yn ein lonydd a’n coetrychoedd. Ac mae’n digwydd nawr.” - Mike Perry
Mae’r ffotograff pruddglwyfus hwn yng ngolau’r lleuad yn darlunio canghennau’r coed ynn oedd yn marw o gwmpas stiwdio’r artist yng ngogledd Sir Benfro. Haint sydd efallai wedi mynd yn angof yn ystod pandemig Covid-19 yw clefyd coed ynn. Gallai hyd at 95% o goed ynn Prydain gael eu colli yn sgil y clefyd hwn. Mae Sir Benfro yn benodol wedi cael ei fwrw’n wael.
Mae’r clefyd ffyngaidd hwn, y credir ei fod wedi ei gyflwyno drwy fasnach coed ifanc, yn ein hatgoffa o’r angen i warchod ein cynefinoedd a’n ecosystemau.
Mae ecolegwyr angerddol, gwirfoddolwyr ymrwymedig, a thirfeddianwyr gofalgar yn gweithio’n galed i ailblannu coetiroedd a choetrychoedd brodorol.
Bagiau Gwrtaith Wedi Llosgi (Coch Gwyn a Glas), Sir Benfro, Cymru 2019Daeth yr artist o hyd i lwmp o blastig wedi llosgi mewn cae ger ei gartref. Roedd ei siâp a’i liwiau yn ei atgoffa o’r Eryr Americanaidd eiconig, ond i’r artist mae’n adrodd stori ehangach na’r un am blastigau yn treiddio i’n systemau bwyd. Iddo ef cynrychiolir yn ogystal ddylanwad gwleidyddiaeth a busnesau mawr ar y modd yr ydym yn ffermio.
Esgidiau 4, 2, 9, ac 1, Cwm Gwyllog, Sir Benfro, Cymru 2015Roedd yr hen esgidiau hyn yn y môr am amser hir. Mae’n rhaid bod y daps wedi cael eu gwisgo yn y 1970au! Sut wnaethon nhw ddiweddu yn y môr? Pwy oedd yn berchen arnyn nhw? Mae’r esgidiau hyn yn adrodd stori archaeolegol am dirlun a diwylliant. Pan fydd archeolegwyr y dyfodol yn edrych nôl ar ein cyfnod ni, pa straeon fyddan nhw’n eu hadrodd? Ydyn ni’n hapus gyda’r hyn yr ydym yn ei adael ar ein holau i genedlaethau’r dyfodol?
Croes, Anialdir Gwlyb Rannoch Moor, Yr Alban, 2009“Pan gyrhaeddais Rannoch Moor roedd y tir yn edrych yn ddiffaith. Nid y tir gwyllt rhamantaidd anghyffyrddedig y darllenais amdano yn Wild Places Robert Macfarlane, na’r hyn oeddwn wedi ei ddychmygu yn seiliedig ar y teithlyfrau a’r atodiadau lliw. Roedd y llwybr twristaidd drwy Rannoch Moor yn edrych fel maes brwydr o’r Rhyfel Byd Cyntaf. Gorlifdir o goed wedi torri a gwreiddiau’n pydru. Cafodd y tir ei dyllu a’i ddinistrio, nid gan offer milwrol ond gan dirfeddianwyr a busnesau coedwigaeth.” - Mike Perry
Mae planhigfeydd coniffer fel yr un yma yn Yr Alban yn cyfrannu at newid hinsawdd gan fod draenio tir ar gyfer coedwigaeth yn rhyddhau carbon sydd wedi ei storio mewn corsydd. Yn Sir Benfro, prynodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol blanhigfa sbriws ger Cwm Gwaun, ac maen nhw wedi dechrau ar y gwaith o’i adfer i rostir a gwaun. Bellach mae grug, llus ac eithin yn aildrefedigaethu’r tirlun. Mae pili palas brith y gors prin yn byw gerllaw.
Loch Cluanie, Yr Ucheldiroedd Gorllewinol, Yr Alban, 2009 195cm x 165cm (ffilm 8x10’)Tynnodd yr artist y llun hwn ar ddiwedd diwrnod hir. Pan ddatblygodd y ffilm, nid oedd yn gallu deall yr hyn oedd wedi digwydd. Ai llun dwbl ydoedd, neu a oedd dŵr wedi treiddio i’r lens? Roedd ei hynodrwydd yn cydweddu â hynodrwydd y tirlun a lifogwyd, yn agos at gronfa ddŵr hydro-electrig yn yr Alban, lle na welodd lawer o arwyddion o fywyd.
Darn o Focs CadwFreshwater West, Sir Benfro, Cymru 2015
Mae Perry wedi tynnu llun o ochr grog ‘bocs cadw’ pysgota fel atgof o’r llygredd a achosir gan y diwydiant pysgota. Fel Ffens, mae’r gwrthrychau du a gwyn hyn sydd ‘fel cewyll’ yn enghreifftiau o’r arwynebau a’r patrymau gwneuthuredig sydd bellach yn rhan o’n ecosystemau morol. Dyma ffurfiau haniaethol geometrig sy’n adrodd stori gyfoes bwerus am ein harfordir.