Mae cyfnodau preswyl yn Oriel y Parc yn caniatáu i artistiaid gymryd ysbrydoliaeth oddi wrth harddwch tirwedd y Parc Cenedlaethol a gweithio gyda grwpiau ac ysgolion lleol i greu darnau gwreiddiol o waith celf.
Mae’r cyfnod preswyl hefyd yn rhoi cyfle i artistiaid ryngweithio â darnau dethol o Amgueddfa Cymru.
Nid ydym yn derbyn unrhyw geisiadau Arlunydd Preswyl pellach ar hyn o bryd. Am wybodaeth bellach, e-bostiwch ni neu ffoniwch 01437 720392.
Bywyd mewn Lliw gan Rachel De Wreede
Dydd Gwener 7 Mehefin i ddydd Sul 28 Gorffennaf 2024
Mae dylanwad lliwiau hardd Sir Benfro ym meddyliau Rachel ac yn esblygu ar y cynfas. Mae lliwiau’r tymhorau cyfnewidiol yn ffynonellau ysbrydoliaeth, fel pinc y gludlys yn yr haf neu’r awyr las llechi dros y môr yn y gaeaf. Mae paletau lliw Rachel yn adlewyrchu harddwch y Parc Cenedlaethol, ac mae pob darn yn eich atgoffa o naws pelydrol Sir Benfro.
![Admoire by Rachel De Wreede](https://www.arfordirpenfro.cymru/wp-content/uploads/2024/05/RachelDeWreede15-Admire.jpg)