Mae gan yr Ystafell Ddarganfod man arddangos ar gyfer gweithiau celf 3D, gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwydr a cherflunwaith.

Mae ceisiadau arddangos ar gau ar hyn o bryd. E-bostiwch ni i gael mwy o wybodaeth am arddangosfeydd.

Arddangosfa Crefftwyr Sir Benfro

Dydd Gwener 10 Ionawr i ddydd Mercher 5 Mawrth 2025

Mae Crefftwyr Sir Benfro yn gasgliad o artistiaid a gwneuthurwyr dawnus sy’n arddangos eu gwaith ar draws Sir Benfro. Mae eu haelodau yn cynhyrchu ystod amrywiol o grefftau; gemwaith, cerameg, gwaith lledr, tecstilau, a phaentiadau o ansawdd uchel mewn dyfrlliwiau, acrylig ac olew. Mae’r arddangosfa hon yn amlygu eu gwaith a ysbrydolwyd gan arfordir syfrdanol Sir Benfro, y dirwedd a’i bywyd gwyllt. Mae hefyd yn anelu at annog gwneuthurwyr lleol, sy’n gweithio mewn unrhyw faes crefft, i ymuno â’r gymuned greadigol fywiog hon.

Image of colourful art

Darganfyddwch fwy am Oriel y Parc