Mae Ystafell Tyddewi yn arddangos paentiadau, printiau ac ysgythriadau gan artistiaid a chrefftwyr Sir Benfro neu’r rhai sydd wedi’u hysbrydoli gan dirwedd yr ardal.
I wneud cais am arddangosfa, anfonwch e-bost atom am ragor o wybodaeth.
Ddraenen Wen – Hawthorn gan Maggie Brown
Dydd Gwener 7 Mehefin i ddydd Sul 4 Awst 2024
Mae Ddraenen Wen yn mynegi cysylltiad gydol oes Maggie â natur. Gan gymryd y siâp eiconig hwn o goeden Sir Benfro sy’n dioddef creulondeb y gwynt, mae Maggie wedi ei dewis i fod yn ganolog i’w hastudiaeth.
Bydd Maggie yn dychwelyd dros amser i rai o’r hen goed draenen wen lleol lle bydd yn parhau i’w paentio, darlunio, a’u cofnodi trwy’r tymhorau a’r tywydd gwahanol, gan archwilio’r mannau gwyllt y maent yn byw ynddynt a chydnabod y bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnynt. Mae Maggie yn gobeithio y gall ei phaentiadau ennyn ymdeimlad o fod yn y foment, gan ganiatáu i’r gwyliwr rannu yn ei harsylwadau o natur ac efallai hyd yn oed helpu i’w warchod.
![Hawthorne by Maggie Brown](https://www.arfordirpenfro.cymru/wp-content/uploads/2024/05/HawthornMaggieBrown-scaled.jpg)