Ystafell Tyddewi

Gweledigaeth Ddwbl gan Clive Gould and Graham Brace
Dydd Gwener 14 Mawrth i ddydd Sul 4 Mai

Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys printiau fframiog rhifyn cyfyngedig sy’n cyfleu tirweddau eiconig y rhanbarth. Mae morluniau acrylig mawr Clive Gould yn cynnwys dyfnder a drama, tra bod darnau cyfrwng cymysg cywrain Graham Brace, a grëwyd yn bennaf gyda phensiliau lliw, yn cynnig portread mwy cartrefol o gefn gwlad.

 

Y Tŵr

Tangnefedd Rhyngom gan Jackie Morris a Elly Morgan
Dydd Gwener 7 Mawrth i ddydd Sul 27 Ebrill 2025

Mae’r arddangosfa hon yn archwiliad twymgalon o heddwch yn ei amryfal ffurfiau. Gyda dymuniad, gweddi a gobaith, mae’r arddangosfa’n adlewyrchu’r heddwch a rennir rhwng yr artistiaid, yr oriel, a’r gynulleidfa. Yn cynnwys printiau o golomennod wedi’u paentio gan Jackie a cholomennod ceramig wedi’u crefftio gan Elly, mae’r arddangosfa’n creu gofod tawel i fyfyrio yng nghanol dinas leiaf y DU.

Mynediad am ddim.

 

Ffenestri Ystafell Ddarganfod

Moroedd Gwyrddlas a Glannau Creigiog gan Jane Boswell
Dydd Sadwrn 8 Mawrth i ddydd Mawrth 29 Ebrill 2025

Mae Jane yn nofiwr gwyllt angerddol ac yn cael ei hysbrydoli gan y cildraethau tawel a’r ymylon llanw, gan drosi’r profiadau hyn yn ei gwaith celf. Mae ei phowlenni a’i seigiau’n adlewyrchu arlliwiau bywiog pyllau glan môr – gwyrddlas, glas, porffor a gwyrdd – wedi’u saernïo o glai lled-borslen gyda gwydredd swigod ac wedi’u gorffen ag arian neu aur, gan ychwanegu ymdeimlad o werthfawrogrwydd.

 

Ystafell Ddarganfod

Grŵp Celf Tyddewi a Solfach
Dydd Iau 17 Ebrill i ddydd Mercher 23 Ebrill 2025, 10am – 4pm

Dyma arddangosfa’r gwanwyn gan grŵp lleol o artistiaid amatur sy’n byw ger Tyddewi ac sy’n cyfarfod yn wythnosol ym mhentref pysgota Solfach gerllaw. Rhoddir yr holl elw o werthiannau i elusennau lleol.

Mynediad am ddim