Gŵyl Tir a Môr

Dydd Gwener 28 i ddydd Sul 30 Mawrth 2025

Mae Oriel y Parc yn gyd-westeiwr ar gyfer Gŵyl Tir a Môr, am fwy o wybodaeth ewch i tiramorstdavids.co.uk am fanylion digwyddiadau ar draws penrhyn Tyddewi.

 

Dewch i gwrdd â Will Chant, Llywiwr Bad Achub Tyddewi

Will Chant, Coswain, St David RNLI

Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025, sgyrsiau 15 munud am ddim. 11am, hanner dydd a 2pm

Ymunwch â ni yn arddangosfa Calon a Chymuned: RNLI 200 Cymru am sgwrs arbennig gan Will Chant, Llywiwr Bad Achub Tyddewi. Dysgwch am y camau hollbwysig sydd ynghlwm wrth lansio bad achub ar gyfer cyrch achub a chael cipolwg ar sgil ac ymroddiad criw’r RNLI. Galwch draw i ddarganfod gwaith achub bywyd yr RNLI mewn gweithredu.

AM DDIM

 

Caneuon y Môr gyda Mike Chant

Image of Mike Chant performing on stage with a guitar.

Dydd Sadwrn 29 Mawrth 2025 o 11am

Ymunwch â’r cerddor lleol, Mike Chant, wrth iddo ddod ag ysbryd arfordir Sir Benfro yn fyw trwy ganeuon sydd wedi’u hysbrydoli gan y môr. Galwch heibio a mwynhau dathliad cerddorol o dreftadaeth forwrol a harddwch arfordirol.

AM DDIM