Llwybr Antur Wyau!
Dydd Sadwrn 12 i ddydd Sul 27 Ebrill 2025
Wrth i’r gwanwyn ddeffro, felly hefyd hud bywyd newydd! Wrth i chi grwydro drwy ein coetir, cwrt, a thiroedd, darganfyddwch wyau cudd ar hyd ein Llwybr Wyau.
O wyau mân, brith adar y gân i drysorau trawiadol adar y môr, mae wyau Pasg natur yn aros i gael eu darganfod!
£4 y plentyn
Gwnewch ac Ewch: Cartrefi Draenog
Dydd Mercher 16 Ebrill 2025, 11am – 3pm
Paratowch ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod trwy adeiladu lloches glyd ar gyfer yr ymwelwyr gardd annwyl hyn! Dysgwch sut i gefnogi ein draenogod lleol a rhoi lle diogel iddynt yn eich gardd. Gweithgaredd ymarferol hwyliog ar gyfer rhai sy’n hoff o fyd natur!
£4 y plentyn, sesiynau galw heibio
Gwnewch ac Ewch: Gweithdy Noddfa Buchod Coch Cwta
Dydd Mercher 23 Ebrill 2025, 11am – 3pm
Crëwch bryfyn côn pîn lliwgar i annog buchod coch cwta i mewn i’n gerddi!
£4 y plentyn, sesiynau galw heibio
Gweithdy Printiau Barddoniaeth wedi’i Fforio gan Bean Sawyer
Dydd Iau 23 Ebrill 2025, 10am – 1pm
Gweithdy i’r teulu ar gyfer oedolion a phlant 11 oed a hŷn (yng nghwmni oedolyn)
Cyfle i greu printiau cyanoteip hardd allan o bapur a ffabrig drwy ddefnyddio geiriau a chasglu deunyddiau naturiol. Mae cyanoteip yn un o’r prosesau ffotograffig hynaf, lle mae delweddau’n agored i olau’r haul, sy’n creu print lliw glas Prwsiaidd unigryw.
Darperir yr holl ddeunyddiau, gydag amser ar gael i fforio am ddail!
Mae Bean Sawyer yn rhedeg prosiect barddoniaeth bost Murmuriad o Eiriau, a gafodd ei arddangos yn Oriel y Parc ynghyd â phrintiau cyanoteip ddiwedd y llynedd.
Uchafswm o 10 o bobl.
£40 y pen
Archebu’n hanfodol. I archebu lle, cliciwch yma.
Llwybr Trysor y Môr-ladron
Dydd Sadwrn 24 Mai i ddydd Sul 1 Mehefin 2025
Ahoy, anturiaethwyr ifanc! Hwyliwch ar daith gyffrous o amgylch ein pentir prydferth. Ewch ar eich llong, cydiwch yn eich map, a llywio trwy gildraethau cudd a thraethau tywodlyd. Dewch o hyd i’r holl drysorau sydd wedi’u golchi i fyny i gasglu’ch gwobr!
£4 y plentyn
Gwnewch ac Ewch: Trincedi’r Môr
Dydd Mercher 28 Mai, 11am – 3pm 2025
Ymunwch â’n gweithdy i wneud eich darn bach o drysor i fynd adref gyda chi!
£4 y plentyn, sesiynau galw heibio