Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc yw’r porth i Dyddewi, dinas leiaf Prydain sydd wedi ei lleoli yn unig Barc Cenedlaethol gwirioneddol arfordirol y DU. Rydych chi’n sefyll mewn adeilad ‘gwyrdd’ sydd wedi ennill gwobrau.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel y Parc, a dyma gartref Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.
Yma, yn Oriel y Parc fe welwch chi:
- Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol gyda’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i archwilio Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
- Oriel o’r radd flaenaf sy’n arddangos gwaith celf ac arteffactau o gasgliad Amgueddfa Cymru.
- Arddangosfeydd gan artistiaid lleol sydd wedi cael eu hysbrydoli gan Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
- Ystafell Ddarganfod, sy’n cynnig amgylchedd sy’n hwyl i blant gael dysgu am y dirwedd a’r diwylliant lleol.
- Tŵr Artist Preswyl
- Siop sy’n gwerthu llyfrau, cardiau post, printiau a chrefftau lleol.
- Caffi yn gweini brecwast, cinio, diodydd poeth a chacennau.
- Maes parcio sy’n cysylltu a’r gwasanaethau bws arfordirol