Os y byddwch yn cyrraedd Oriel y Parc mewn car gallwch parcio yn y maes parcio talu ac arddangos gyferbyn ag Oriel y Parc ar Ffordd Caerfai.

Mae nifer o fannau barcio anabl ar gael ar yr ochr dde wrth ichi yrru i mewn i’r maes parcio. Am fanylion llawn ewch i’n dudalen parcio.

Unwaith eich bod wedi barcio, croeswch Ffordd Caerfai a ewch o dan y bwa (llethr bychan goriwaered) i’r clos.

Mae’r pellter o’r maes parcio i’r ganolfan tua 100 metr. Mae’r llwybr a’r clos yn wastad.

Gallwch ddod i mewn i adeilad Oriel y Parc o’r clos, neu fynd yn eich blaen trwy’r coed i’r Stryd Fawr, Tyddewi. Mae’n cymryd tua 5-10 munud i gerdded i ganol Tyddewi o Oriel y Parc ar hyd dir gwastad.

Mae rhai o’r palmentydd yn gul a dim ond ar un ochr i’r ffordd.

Mae mynedfa Oriel y Parc trwy ddrysau awtomatig llydan. Mae’r holl wasanaethau yn Oriel y Parc ar un lefel heblaw am yr Oriel a’r Tŵr, sydd â mynediad lifft.

Viewing St Davids Cathedral with a mobility scooter

Mae gan Oriel y Parc 2 gadair olwyn a 2 sgwter symudedd ar gael ar gais.

Rydym yn argymell eich bod yn archebu’r rhain ymlaen llaw, os yn bosibl. I archebu, ffoniwch ni ar 01437 720392.

Mae yna hefyd gadair olwyn y traeth i blentyn a chadair olwyn oddi ar y ffordd Extreme Motus i oedolion ar gael. I archebu un o’r rhain, cliciwch yma. (agor mewn ffenestr newydd)

Mae toiledau hygyrch ac unedau newid cewynnau yn y Caffi a’r Ganolfan Ymwelwyr yn Oriel y Parc.

Mae dolen glywed ar gael wrth y ddesg.