Llogi E-Beiciau Dros y Gaeaf
Wrth i'r gaeaf agosáu, bydd ein cynllun llogi e-feiciau yn dod i ben ar 25 Tachwedd, a bydd yn ôl yn y gwanwyn i'ch helpu i grwydro Sir Benfro ar ddwy olwyn unwaith eto!
Diolch o galon i bawb a gymerodd ran y tymor hwn. Roeddem wrth ein bodd yn gweld cymaint o feicwyr yn mwynhau'r golygfeydd hardd mewn ffordd ecogyfeillgar. Cadwch lygad am y newyddion diweddaraf am ein hailagor yn y gwanwyn.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn treialu cynllun rhentu e-feiciau yn Nhyddewi. Mae’n bosibl llogi e-feiciau yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a’u defnyddio i grwydro o amgylch yr ardal gyda chymorth y motor trydan i ddringo bryniau serth yr ardal ac i deithio ymhellach ar ddwy olwyn.
Beth yw e-feic?
Beic â modur trydan a batri yw e-feic, sy’n eich helpu wrth i chi bedlo. Mae hyn yn golygu y gallwch chi feicio i fyny rhiwiau neu feicio ymhellach cyn blino.
Ein e-feiciau
Mae ein e-feiciau Riese & Müller yn gyfforddus ac yn ffasiynol. Mae ganddyn nhw fframiau camu-drwodd, sy’n golygu ei bod yn hawdd mynd ar gefn y beic a dod oddi arno. Mae gan bob beic fasged ddefnyddiol ar y tu blaen, sy’n ei gwneud yn hawdd i chi gario eich eiddo.
Manteision Iechyd
Gall beicio leihau’r risg o salwch difrifol; eich helpu i gynnal pwysau iach, a gwella’ch llesiant meddyliol.
Manteision Amgylcheddol
Helpwch i leihau tagfeydd ac allyriadau carbon ar Benrhyn Tyddewi drwy ddefnyddio un o’n e-feiciau i grwydro o amgylch yr ardal.
Costau Llogi
Mae ein e-feiciau ar gael i’w rhentu am y dydd – £20 am bob beic am y dydd.
Cyfarwyddiadau Archebu
Gallwch archebu’r e-feiciau drwy ddefnyddio ap rhad ac am ddim ar eich ffôn symudol, sef “MOQO”. Gallwch lwytho’r ap i lawr am ddim o App Store Apple (yn agor mewn ffenestr newydd) neu Google Play Store (yn agor mewn ffenestr newydd).
Bydd angen i chi fewngofnodi gyda’ch manylion personol, gan gynnwys manylion talu, ac yna darllen a derbyn y telerau ac amodau.
Sut mae defnyddio ap MOQO
Ar ôl i chi gwblhau’r camau uchod, fe fyddwch chi’n barod i archebu un o’r e-feiciau. Wrth agor ap MOQO, bydd y beiciau sydd ar gael i’w gweld ar waelod y sgrin, neu gallwch chwilio am feic ac archebu un ar frig y sgrin.
Ar ôl gorffen archebu, byddwch chi’n barod i gasglu’r beic.
I ddatgloi’r beic, mae angen i chi fod yn agos ato. Cofiwch ddatgloi’r beic gan ddefnyddio’r ap cyn symud y beic – os yw’r beic yn dal wedi’i gloi ar yr ap, bydd larwm yn canu. Ar ôl ei ddatgloi, byddwch chi’n gallu defnyddio’r e-feic.
Gallwch gloi’r beic dros dro drwy’r ap, ond peidiwch â chlicio “Return e-bike” nes eich bod yn ôl yn Oriel y Parc ac yn barod i ddychwelyd y beic.
Dychwelyd yr e-feic
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dychwelyd yr e-feic i Oriel y Parc ar yr amser sydd wedi’i nodi yn eich archeb. Cofiwch roi digon o amser i chi’ch hun feicio’n ôl i’r Ganolfan Ymwelwyr.
Mae’r cynllun hwn yn cael ei dreialu am gyfnod ar hyn o bryd, felly byddem yn falch o gael eich adborth.
Cofiwch rannu eich anturiaethau e-feic gyda ni ar y cyfryngau cymdeithasol!