Mae’r telerau ac amodau canlynol yn berthnasol i’r defnydd o E-feiciau a gynigir gan yr Awdurdod i’w rhentu, ac maent yn rheoleiddio’r hawliau a’r rhwymedigaethau ar gyfer defnyddio a rhentu E-feiciau, a’r berthynas gyfreithiol rhwng yr Awdurdod a’i Gwsmeriaid.
1. DEHONGLIAD
1.1 Mae’r diffiniadau a’r rheolau dehongli canlynol yn berthnasol yn y cytundeb hwn.
- Mae Cytundeb yn golygu’r telerau ac amodau llogi a’r cofnod cyflwr yn y cytundeb hwn.
- Mae Awdurdod yn golygu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Swyddfa’r Parc Cenedlaethol, Parc Llanion, Doc Penfro, Sir Benfro, SA72 6DY.
- Mae Dyddiad Cychwyn yn golygu’r dyddiad a’r amser y mae’r Cwsmer yn datgloi’r E-feic, yn unol â thelerau’r Cytundeb hwn, ac mae’r risgiau wedi’u nodi o dan gymal 12.2.
- Mae Cwsmer yn golygu’r sawl a enwir yn y cadarnhad archebu a gynhyrchir gan yr Ap Ffôn Clyfar, sy’n gyfrifol am bob E-feic y mae’n ei logi yn ystod y cyfnod llogi.
- Mae Deddfwriaeth Diogelu Data yn golygu’r holl ddeddfwriaeth diogelu data a phreifatrwydd berthnasol sydd ar waith o bryd i’w gilydd yn y DU, gan gynnwys GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018 (a rheoliadau a wneir o dan y ddeddfwriaeth honno).
- Ystyr Cyflawni yw trosglwyddo meddiant ffisegol yr E-feic i’r Cwsmer, sef y pwynt pan fydd y Cwsmer yn cymryd yr E-feic o’r Orsaf E-feiciau.
- Ystyr E-feic yw pob beic electronig sy’n cynnwys y rhif adnabod a nodir yn y cadarnhad archebu a gynhyrchir gan yr Ap Ffôn Clyfar.
- Mae Gorsaf E-feic yn golygu’r lleoliad casglu a gollwng yr E-feic sydd wedi’i farcio ar y map yn yr Ap Ffôn Clyfar.
- Mae Tor-amod Perthnasol yn golygu tor-amod (gan gynnwys tor-amod rhagweladwy) sy’n ddifrifol yn yr ystyr ehangaf o gael effaith ddifrifol ar y budd y byddai’r Awdurdod fel arall yn ei gael o ran sylweddol o’r Cytundeb hwn, dros gyfnod y Cytundeb hwn. Wrth benderfynu a yw unrhyw dor-amod yn berthnasol, ni roddir ystyriaeth i p’un a yw’n digwydd drwy ddamwain, anffawd, camgymeriad neu gamddealltwriaeth.
- Mae Partïon yn golygu’r Awdurdod a’r Cwsmer, ac mae “Parti” yn golygu un ohonynt.
- Ystyr Taliadau Rhentu yw’r taliadau a wneir gan, neu ar ran, y Cwsmer i logi’r E-feic, yn unol â’r manylion archebu a gynhyrchir gan yr Ap Ffôn Clyfar.
- Mae Cyfnod Rhentu yn golygu hyd y cyfnod a nodir yng nghymal 6.
- Mae’r Parth Rhentu yn golygu’r ardal sydd wedi’i marcio a’i geoffensio sy’n cael ei dangos yn yr Ap Ffôn Clyfar.
- Mae Ap Ffôn Clyfar yn golygu’r cymhwysiad symudol ‘MOQO’ gan Digital Mobility Solutions GmbH.
- Mae Colled Lwyr yn golygu colli, difrod na ellir ei atgyweirio, dwyn neu atafaeliad yr E-feic oherwydd methiant ar ran y Cwsmer.
- Mae ystyr GDPR y DU wedi’i nodi yn adran 3(10) (fel y’i hategir gan adran 205(4)) o Ddeddf Diogelu Data 2018.
- Ystyr TAW yw treth ar werth sy’n daladwy o dan Ddeddf Treth ar Werth 1994 neu unrhyw dreth gyfatebol sydd i’w chodi yn y DU.
1.2 Ni fydd penawdau’r cymalau yn effeithio ar y modd y dehonglir y Cytundeb hwn.
1.3 Mae person yn cynnwys person naturiol, corff corfforaethol neu gorff anghorfforedig (p’un a oes ganddo bersonoliaeth gyfreithiol ar wahân ai peidio) a chynrychiolwyr cyfreithiol a phersonol y person hwnnw, ei olynwyr a’i aseineion a ganiateir.
1.4 Mae cyfeiriad at gwmni yn cynnwys unrhyw gwmni, corfforaeth neu gorff corfforaethol arall, lle bynnag a sut bynnag y cafodd ei ymgorffori neu ei sefydlu.
1.5 Oni bai fod y cyd-destun yn nodi fel arall, bydd unrhyw eiriau yn yr unigol yn cynnwys y lluosog ac i’r gwrthwyneb.
1.6 Mae cyfeiriad at statud neu ddarpariaeth statudol yn gyfeiriad ato fel y caiff ei ddiwygio, ei ymestyn neu ei ailddeddfu o bryd i’w gilydd.
1.7 Mae cyfeiriad at ysgrifennu neu ysgrifenedig yn cynnwys negeseuon e-bost.
1.8 Mae unrhyw rwymedigaeth ar barti i beidio â gwneud rhywbeth yn cynnwys rhwymedigaeth i beidio â chaniatáu i’r peth hwnnw gael ei wneud.
1.9 Mae cyfeiriadau at gymalau yn cyfeirio at gymalau’r Cytundeb hwn.
1.10 Dylid ystyried unrhyw eiriau sy’n dilyn y termau ‘yn cynnwys, ‘gan gynnwys’, ‘yn benodol’, ‘er enghraifft’ neu unrhyw fynegiant tebyg, fel rhai enghreifftiol, ac ni fyddant yn cyfyngu ar ystyr y geiriau, y disgrifiad, y diffiniad, yr ymadrodd neu’r term sy’n dod o flaen y termau hynny.
2. CYFFREDINOL
2.1 Mae’r Cwsmer yn cytuno i:
(a) logi’r E-feic;
(b) talu’r Taliadau Rhentu;
(c) dychwelyd yr E-feic yn unol â chymal 10; a
(ch) derbyn telerau ac amodau’r Cytundeb hwn.
2.2 Yn ystod y Cyfnod Rhentu, bydd y Cwsmer yn:
(a) derbyn cyfrifoldeb llwyr yn ystod y cyfnod llogi am gadw’r E-feic yn ddiogel ac am unrhyw golled, lladrad neu ddifrod iddo (sut bynnag y’i hachosir);
(b) gyfrifol am ddiogelwch yr E-feic a rhaid iddo gloi olwyn ôl yr E-feic bob amser gan ddefnyddio’r Ap Ffôn Clyfar pryd bynnag y bydd yr E-feic heb oruchwyliaeth a chadw’r E-feic yn ddiogel;
(c) hysbysu’r Awdurdod ar unwaith am unrhyw golled, lladrad, difrod neu ddamwain i’r E-feic ac, yn achos lladrad neu ddamwain sy’n ymwneud ag unrhyw barti neu gerbyd arall, yn cysylltu â’r orsaf heddlu agosaf.
3. COFRESTRU AR YR AP FFÔN CLYFAR
3.1 Mae modd gwneud cais i gofrestru drwy’r Ap Ffôn Clyfar. Er mwyn i’r cofrestriad fod yn ddilys, rhaid i’r Cwsmer fod yn 18 oed ar adeg cymeradwyo’r cais.
3.2 Ystyrir bod y data canlynol yn orfodol er mwyn cofrestru ar yr Ap Ffôn Clyfar: enw, cyfeiriad, rhif ffôn, dyddiad geni a chyfeiriad e-bost. Os canfyddir bod unrhyw ran o’r data uchod yn ffug, mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i gau’r cyfrif.
3.3 Ar ôl derbyn yr holl ddata personol perthnasol, bydd darparwr yr Ap Ffôn Clyfar yn penderfynu a ddylid derbyn a chymeradwyo’r cais ar ôl dilysu’r data a ddarparwyd.
3.4 Bydd cymeradwyo’r cais yn arwain at gyhoeddi hysbysiad ysgogi. Gall yr hysbysiad hwn ddigwydd ar ffurf ffurflen, dros y ffôn, drwy e-bost, SMS neu ar yr Ap Ffôn Clyfar.
3.5 Ar ôl cofrestru, bydd y Cwsmer yn cael rhif adnabod personol (PIN) y gall ei ddefnyddio i fewngofnodi i’r Ap Ffôn Clyfar.
3.6 Mae cofrestru yn rhad ac am ddim. Rhaid darparu dull talu dilys cyn amser rhentu’r E-feic.
3.7 Nid yw rhifau cardiau talu ymlaen llaw na rhith gardiau na rhith gardiau credyd yn cael eu derbyn ar yr Ap Ffôn Clyfar.
3.8 Mae’n rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r Awdurdod ar unwaith am unrhyw newidiadau i’w wybodaeth bersonol. Mae hyn yn cynnwys data personol a gwybodaeth am ddulliau talu (e.e. gwybodaeth am gyfeiriad neu gerdyn credyd).
4. ARCHEBU E-FEIC
4.1 Bydd E-feiciau sydd ar gael i’w llogi yn cael eu lleoli yn yr Orsaf E-feiciau ac yn cael eu harchebu gan ddefnyddio’r Ap Ffôn Clyfar.
4.2 Dim ond hyd at bedwar (4) o E-feiciau y caiff pob Cwsmer eu llogi ar unrhyw adeg ar eu cyfrif cwsmer.
4.3 Y Cwsmer sy’n gyfrifol am sicrhau ei fod yn gyfarwydd â’r cyflwr a’r defnydd priodol o’r E-feic cyn ei rentu.
4.4 Mae’n rhaid i’r Cwsmer wirio cyn defnyddio bod yr E-feic mewn cyflwr diogel sy’n addas i fod ar y ffordd, cymaint ag sy’n rhesymol bosibl. Bydd y Cwsmer yn cael ei brocio ar yr Ap Ffôn Clyfar i dicio blwch sy’n cadarnhau ei fod wedi archwilio’r beic a’i fod yn rhydd rhag unrhyw ddiffygion.
4.5 Os bydd y Cwsmer yn canfod unrhyw ddiffygion ar ddechrau’r Cyfnod Rhentu, neu ar unrhyw adeg yn ystod y Cyfnod Rhentu, rhaid iddo roi gwybod i’r Awdurdod gan ddefnyddio’r Ap Ffôn Clyfar (gan gynnwys tystiolaeth ffotograffig), dod â’r rhent i ben a rhoi’r gorau i ddefnyddio’r E-feic ar unwaith.
4.6 Cyfrifoldeb y Cwsmer yw gwirio lefel pŵer gwefru’r E-feic a sicrhau ei fod yn ddigonol cyn dechrau rhentu/defnyddio’r E-feic.
4.7 Bydd lefel y wefr sy’n weddill ym matri’r E-feic yn lleihau wrth ei ddefnyddio (o ran amser a phellter). Wrth i lefel y pŵer ostwng, gall cyflymder a galluoedd gweithredol eraill yr E-feic leihau.
4.8 Nid yw lefel gwefr yr E-feic ar adeg rhentu’r E-feic i’r Cwsmer wedi’i warantu a gall amrywio gyda phob rhent. Yn yr un modd, nid yw cyfradd colli pŵer gwefru yn ystod y defnydd o’r E-feic wedi’i warantu a bydd yn amrywio ar sail nifer o ffactorau (e.e. tirwedd ddaearyddol, amodau tywydd a ffactorau eraill).
5. TALIADAU RHENTU
5.1 Ar ôl dychwelyd yr E-feic yn llwyddiannus, yn unol â chymal 10, bydd y cwsmer yn talu am ddefnyddio’r E-feic gan ddefnyddio’r cerdyn sydd wedi cael ei storio ar yr Ap Ffôn Clyfar.
5.2 Gall y cwsmer newid y dull talu mae’n ei ffafrio ar unrhyw adeg.
5.3 Bydd y Taliad Rhentu yn cael ei gyfrifo yn unol â’r Cyfnod Rhentu, a bydd y ffioedd yn cael eu nodi yn yr Ap Ffôn Clyfar.
5.4 Mae’r Taliadau Rhentu yn cynnwys TAW ac unrhyw drethi a thollau perthnasol eraill neu daliadau tebyg a fydd yn daladwy gan y Cwsmer ar y gyfradd ac yn y modd a bennir o bryd i’w gilydd gan y gyfraith.
5.5 Bydd yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y Cytundeb hwn yn cael eu talu’n llawn heb unrhyw wrthbwyso, gwrth-hawliad, didyniad neu atal (ac eithrio unrhyw ddidyniad neu atal treth fel sy’n ofynnol o dan y gyfraith).
6. CYFNOD RHENTU
6.1 Mae’r Cyfnod Rhentu yn dechrau ar y Dyddiad Cychwyn a bydd yn parhau am y cyfnod llogi y cytunwyd arno oni bai fod y Cytundeb hwn yn cael ei derfynu’n gynharach yn unol â’i delerau.
7. CYFRIFOLDEBAU’R CWSMER
7.1 Yn ystod y Cyfnod Rhentu, bydd y Cwsmer yn:
(a) Derbyn bod risgiau ynghlwm â reidio’r E-feic ac yn cadarnhau ei fod yn seiclwr cymwys a fydd yn ufuddhau i’r holl ddeddfau a rheoliadau traffig a ffyrdd, gan gynnwys Rheolau’r Ffordd Fawr, bob amser wrth ddefnyddio’r E-feic;
(b) Cadarnhau ei fod yn iach yn gyffredinol a bod ei olwg yn cyrraedd y safon sy’n ofynnol i basio prawf gyrru car safonol yn y DU;
(c) Gwisgo helmed a defnyddio cyfarpar a dillad diogelwch priodol eraill wrth ddefnyddio’r E-feic;
(ch) Defnyddio goleuadau blaen a chefn yr E-feic pan mae’r golau naturiol yn pylu;
(d) Dilyn unrhyw gyfarwyddyd rhesymol a roddir gan yr Awdurdod;
(dd) Cytuno na fydd yn defnyddio’r E-feic at unrhyw ddiben anghyfreithlon;
(e) Derbyn y bydd yn atebol i’r Awdurdod am unrhyw golled, lladrad, difrod neu fethiant i ddychwelyd yr E-feic erbyn yr amser a’r dyddiad a nodir yng nghadarnhad archebu’r Cwsmer a gynhyrchir gan yr Ap Ffôn clyfar, ac eithrio lle bo hyn oherwydd esgeulustod yr Awdurdod.
7.2 Rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r Awdurdod am ddamweiniau ar unwaith dros y ffôn: 01437 720392, neu wyneb yn wyneb yng nghanolfan ymwelwyr yr Awdurdod. Mewn achosion o ddamweiniau sy’n ymwneud â’r Cwsmer, yn ogystal ag eiddo trydydd parti neu unigolion eraill, mae’n rhaid i’r Cwsmer hefyd roi gwybod i’r heddlu ar unwaith am y digwyddiad. Bydd methu â gwneud hynny ar ran y Cwsmer yn golygu y bydd y Cwsmer yn atebol am iawndal a achosir gan yr Awdurdod oherwydd torri’r rhwymedigaeth honno.
8. TELERAU AC AMODAU DEFNYDD
8.1 NI cheir defnyddio’r E-feiciau:
- gan unigolion sy’n iau nac 18 oed;
- i gludo deunyddiau neu sylweddau anghyfreithlon, fflamadwy, ffrwydrol, gwenwynig neu beryglus;
- i gario unigolion eraill, yn enwedig plant ifanc;
- ar gyfer teithiau y tu allan i’r Parth Rhentu;
- ar gyfer llogi i drydydd partïon;
- gan unigolion sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau (terfyn cyfreithiol (alcohol) – sero);
- at unrhyw ddibenion heblaw defnydd preifat y Cwsmer (e.e. cwblhau unrhyw weithgareddau busnes). Bydd y defnydd amhriodol o’r E-feiciau o dan yr adran hon yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r defnydd o’r E-feiciau i gwblhau unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â busnes cyflenwi neu y gellir eu diffinio fel busnes cyflenwi;
- ar unrhyw balmant, llwybr troed neu ffordd sy’n gwahardd beiciau.
8.2 Ni chaniateir gosod E-feiciau mewn unrhyw fath o drafnidiaeth.
8.3 Ni chaniateir gweithredu’r E-feiciau heb ddefnyddio eich dwylo ar unrhyw adeg.
8.4 Mae’r Cwsmer yn defnyddio’r E-feic mewn tywydd garw neu anffafriol (e.e. gwynt cryf, tywydd glawog, tywydd stormus) ar ei risg ei hun ac mae’r Awdurdod yn cynghori’r Cwsmer i BEIDIO â defnyddio’r E-feic mewn amgylchiadau o’r fath. Efallai y bydd amodau tywydd lle mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i gyfyngu ar bob defnydd o’r E-feiciau, a bydd Cwsmeriaid yn cael gwybod am hynny yn ôl yr angen.
8.5 Gwaherddir defnyddio basged yr E-feic mewn modd amhriodol neu ei orlwytho (uchafswm llwyth a ganiateir: 5kg). Mae’n rhaid i’r Cwsmer sicrhau bod yr holl nwyddau ac eitemau a gludir yn cael eu rhwymo a’u diogelu’n iawn bob amser.
8.6 Ni chaniateir i’r Cwsmer wneud newidiadau neu addasiadau i’r E-feic sy’n cael ei rentu.
8.7 Os canfyddir bod Cwsmer wedi darparu E-feic i drydydd parti i’w ddefnyddio, mae’r Cwsmer yn gwarantu y bydd y trydydd parti yn cydymffurfio â thelerau ac amodau’r Cytundeb hwn. Mae’r Cwsmer yn gyfrifol am weithredoedd unrhyw drydydd partïon y mae’n caniatáu iddynt ddefnyddio’r E-feic i’r un graddau ag ar gyfer ei weithredoedd ei hun. Ni chaiff y Cwsmer, o dan unrhyw amgylchiadau, adael i drydydd parti sydd o dan 18 oed ddefnyddio’r E-feic.
8.8 Mae’r Cwsmer yn cydnabod ac yn derbyn bod yr E-feic yn eiddo i’r Awdurdod ac, ar wahân i hawl y Cwsmer i ddefnyddio’r E-feic yn unol â thelerau’r Cytundeb hwn, nid yw’r Cytundeb hwn yn rhoi unrhyw hawl, teitl na buddiant yn yr E-feic.
9. PARCIO’R E-FEIC YN YSTOD Y CYFNOD RHENTU
9.1 NI chaniateir i gwsmeriaid barcio E-feiciau:
a) wrth oleuadau traffig,
b) wrth beiriannau tocynnau parcio neu fesuryddion parcio,
c) wrth arwyddion traffig,
ch) ar balmentydd a/neu lwybrau troed sydd, o ganlyniad, yn cael eu lleihau i led sy’n llai na 1.50 metr,
d) o flaen, mewn neu ger allanfeydd argyfwng a pharthau gwasanaeth adrannau tân,
dd) lle mae’r E-feic yn rhwystro hysbysebion lleol,
e) drwy gloi’r E-feic i ffensys adeiladau preifat neu gyhoeddus,
f) ar blatfformau trenau a/neu fysiau,
ff) mewn adeiladau, iardiau cefn/cowrtiau neu mewn unrhyw fath o gerbydau ar unrhyw adeg,
g) ar lwybrau tywys i’r deillion,
ng) wrth neu o flaen blychau post,
h) o flaen drysau neu gatiau neu yn eu hystod troi,
i) mewn neu o flaen rhodfeydd.
9.2 Rhaid i’r E-feic gael ei barcio’n ddiogel gan ddefnyddio’r stand gicio a’i gloi’n gywir pan nad yw’n cael ei ddefnyddio, hyd yn oed os yw’r Cwsmer yn gadael yr E-feic heb oruchwyliaeth am gyfnod byr.
9.3 Mae’r Cwsmer yn gyfrifol am dalu unrhyw ddirwyon a/neu hawliadau swyddogol ar ran unrhyw drydydd parti a gafwyd o ganlyniad i beidio â chydymffurfio â’r Cytundeb hwn neu reoliadau cyfreithiol.
10. DYCHWELYD YR E-FEIC
10.1 Rhaid i’r Cwsmer ddychwelyd yr E-feic i’r Orsaf E-feiciau cyn diwedd y Cyfnod Rhentu.
10.2 Mae’r E-feiciau yn gweithredu gyda thechnoleg geo-ffensio, sy’n tracio lleoliad yr E-feic yn y Parth Rhentu. Dylai’r Ap Ffôn Clyfar atgoffa’r Cwsmer i gadarnhau ei fod wedi dychwelyd yr E-feic, ac i ddefnyddio’r system gloi wrth ddychwelyd i gyffiniau’r Orsaf E-feiciau.
10.3 Rhaid defnyddio stand gicio’r E-feic wrth ddychwelyd yr E-feic i’r Orsaf E-feiciau.
10.4 Rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r Awdurdod bod y cyfnod rhentu’n cael ei derfynu, yn ogystal ag union leoliad yr E-feic (enw’r orsaf / rhif lleoliad yr E-feic / cyfesurynnau GPS). Gwneir hyn yn awtomatig ar ôl dychwelyd yr E-feic drwy’r Ap Ffôn Clyfar.
10.5 Mae’n rhaid i’r Cwsmer wirio ar yr Ap Ffôn Clyfar bod y ffurflen wedi’i chofnodi’n llwyddiannus.
10.6 Ar ôl cadarnhau bod yr E-feic wedi’i ddychwelyd, bydd y Cyfnod Rhentu yn dod i ben, ac ni fydd Taliadau Rhenti pellach yn cael eu tynnu. Bydd diwedd swyddogol y Cyfnod Rhentu yn cael ei gadarnhau pan fydd y Cwsmer yn derbyn gwybodaeth drwy’r Ap Ffôn Clyfar. Rhaid rhoi gwybod i’r Awdurdod am unrhyw broblemau ar unwaith. Gall rhoi gwybod i’r Awdurdod yn ddiweddarach arwain at wneud unrhyw hawliadau costau cysylltiedig yn annilys.
10.7 Os na fydd y Cwsmer yn dychwelyd yr E-feic i’r Orsaf E-feiciau, bydd y Cwsmer yn atebol i ad-dalu’r holl gostau i’r Awdurdod sy’n gysylltiedig ag ailosod yr E-feic.
10.8 Ar ôl i’r E-feic gael ei ddychwelyd yn llwyddiannus, os yw’r Cwsmer yn dymuno ailddefnyddio’r E-feic a ddychwelwyd, bydd gofyn iddo gychwyn proses rhentu newydd.
11. ATEBOLRWYDD YR AWDURDOD
11.1 Nid yw’r Awdurdod yn atebol am unrhyw ddifrod i unrhyw eitemau a gludwyd ym masged yr E-feic yn ystod y Cyfnod Rhentu, oni bai fod y difrod yn ganlyniad i esgeulustod yr Awdurdod.
11.2 Yn amodol ar gymal 13, ni fydd yr Awdurdod yn atebol mewn achosion o ddefnydd amhriodol a/neu o ddefnydd heb awdurdod o unrhyw E-feiciau a logir gan y Cwsmer.
12. ATEBOLRWYDD Y CWSMER
12.1 Yn amodol ar gymal 11 a chymal 13, mae defnyddio’r E-feiciau yn ystod y Cyfnod Rhentu ar risg y Cwsmer ei hun. Mae’r Cwsmer yn cymryd cyfrifoldeb llawn am y difrod a achosir ganddo ef ei hun neu gan unrhyw drydydd parti. Mae’r Cwsmer yn gwbl gyfrifol am unrhyw hawliad a wneir gan drydydd parti o ganlyniad i weithredoedd neu ddigwyddiadau yn ystod y Cyfnod Rhentu.
12.2 Mae’r Cwsmer yn derbyn pob risg sy’n deillio o feddiannu a defnyddio’r E-feic, o’r eiliad y mae’n derbyn cod y clo neu pan fydd yr E-feic yn datgloi’n awtomatig, nes iddo gael ei ddychwelyd yn unol â’r Cytundeb hwn.
12.3 Heb gyfyngu ar gwmpas Cymal 12.1, os caiff yr E-feic ei ddwyn neu ei ddifrodi, bydd y Cwsmer yn parhau i fod yn atebol, yn unol â’r costau am ddeunydd a chostau llafur, ar gyfer unrhyw waith atgyweirio neu adfer E-feic sydd wedi’i ddwyn hyd at swm, ond heb fod yn fwy na chost E-feic tebyg am debyg i’r hyn a ddefnyddiwyd gan y Cwsmer.
12.4 Mae’r Cwsmer, neu’r rheini y maent yn darparu’r E-feiciau a logir iddynt, yn atebol am ganlyniadau troseddau traffig neu droseddau a gyflawnir ganddynt yn ystod eu defnydd o’r E-feiciau yn ystod y Cyfnod Rhentu. Byddant yn ysgwyddo’r holl gostau sy’n deillio o hynny ac yn indemnio’r Awdurdod yn erbyn unrhyw hawliadau sy’n deillio o droseddau traffig neu droseddau o dan y cymal hwn neu mewn cysylltiad â hwy.
12.5 Os yw’r E-feic yn cael ei ddwyn yn ystod y Cyfnod Rhentu, rhaid i’r Cwsmer roi gwybod i’r heddlu ar unwaith am y lladrad ac yna i’r Awdurdod dros y ffôn: 01437 720392, a thrwy anfon neges e-bost at: gwybodaeth@arfordirpenfro.org.uk.
12.6 Gall yr Awdurdod derfynu’r Cytundeb hwn (neu ohirio llogi unrhyw E-feic) os yw’r Cwsmer yn torri telerau’r Cytundeb hwn, a gall eithrio’r Cwsmer rhag archebu neu logi unrhyw beth gan yr Awdurdod yn y dyfodol.
12.7 Mae’n bosibl y bydd gwybodaeth a geir gan yr heddlu ynghylch diffyg cydymffurfio â’r Cytundeb hwn, unrhyw gyfreithiau neu reoliadau perthnasol, tra bo’r Cwsmer, neu unrhyw ddefnyddiwr o dan ei gyfrif, yn defnyddio E-feic yn cael ei datgelu i ddarparwr yr Ap Ffôn Clyfar, a all ddefnyddio gwybodaeth o’r fath i eithrio neu ddiarddel y Cwsmer o’i gyfrif.
12.8 Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i gasglu unrhyw symiau sy’n ddyledus gan y Cwsmer i’r Awdurdod o dan y Cytundeb hwn drwy dynnu’r taliad yn ôl o gyfrif banc y Cwsmer (mae’r manylion wedi’u storio yn yr Ap Ffôn Clyfar).
13. CYFYNGIAD YR ATEBOLRWYDD
13.1 Yn amodol ar gymal 13.2, ni fydd uchafswm atebolrwydd cyfanredol y Partïon am dorri’r Cytundeb hwn (gan gynnwys unrhyw atebolrwydd am weithredoedd neu anweithredoedd ei weithwyr, ei asiantau a’i isgontractwyr), p’un a yw’n codi o dan gontract, trosedd (gan gynnwys esgeulustod), camliwio neu fel arall, mewn unrhyw amgylchiadau yn fwy na’r gwerth amnewid cyfanredol fel newydd yr E-Feiciau a logwyd gan y Cwsmer mewn punnoedd Sterling.
13.2 Ni fydd unrhyw beth yn y Cytundeb hwn yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd:
(a) ar atebolrwydd Parti am farwolaeth neu anaf personol;
(b) ar atebolrwydd Parti am dwyll neu gamliwio twyllodrus;
(c) ar yr indemniad a roddir o dan gymal 12.4 o’r Cytundeb hwn; neu
(ch) ar unrhyw atebolrwydd arall na ellir ei gyfyngu na’i eithrio gan gyfraith berthnasol.
14. TERFYNU A DILEU GWYBODAETH CWSMER
14.1 Heb effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael iddo, gall yr Awdurdod derfynu’r Cytundeb hwn ar unwaith drwy roi rhybudd i’r Cwsmer:
(a) os nad yw’r Cwsmer yn talu unrhyw swm sy’n ddyledus o dan y Cytundeb hwn ar y dyddiad talu dyledus; neu
(b) os bydd Tor-amod Perthnasol yn cael ei gyflawni o unrhyw un o delerau eraill y Cytundeb hwn, os yw’r tor-amod yn un na ellir ei adfer neu (os oes modd adfer y tor-amod hwnnw) os yw’n methu â gwneud iawn am y tor-amod hwnnw ar gais llafar neu ysgrifenedig gan yr Awdurdod.
14.2 Bydd y Cytundeb hwn yn dod i ben yn awtomatig os bernir bod yr E-feic, ym marn resymol yr Awdurdod, yn Golled Lwyr.
14.3 Mae gan gwsmeriaid gyfnod gras o 30 munud i ddatgloi mynediad i’r E-feic y maent wedi talu’r Taliad Rhent ar ei gyfer. Bydd methu â chael mynediad i’r E-feic o fewn 30 munud yn arwain at ganslo’r archeb yn awtomatig ac ni fydd ad-daliad ar gael, ac eithrio lle nad oedd y Cwsmer yn gallu cael mynediad i’r E-feic oherwydd bai’r Awdurdod.
14.4 Ar ôl terfynu’r cytundeb hwn am ba reswm bynnag, bydd cymalau sy’n cael effaith ddatganedig neu ymhlyg ar ôl terfynu yn parhau i fod mewn grym ac effaith lawn.
14.5 Gall y Cwsmer ddadysgogi ei gyfrif Cwsmer drwy wneud cais i wneud hynny ar yr Ap Ffôn Clyfar. Dim ond ar ôl i’r holl ddyledion gael eu talu, ac ar ôl i’r Cwsmer beidio â bod o dan rwymedigaeth i’r Awdurdod, y bydd cyfrif yn cael ei ddadysgogi.
14.6 Unwaith y bydd cyfrif y Cwsmer wedi’i gau, gellir cadw data personol y Cwsmer, yn unol â Pholisi Preifatrwydd yr Awdurdod. Mae’r Awdurdod yn cadw’r hawl i ddefnyddio data personol i fodloni unrhyw ofynion ariannol/rhwymedigaethau sy’n ddyledus gan y Cwsmer i’r Awdurdod (gall hyn gynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i dalu unrhyw swm sy’n ddyledus ar gyfrif Cwsmer).
14.7 Bydd dadysgogi cyfrif yn golygu bod cyfrif yn cael ei gau. Os bydd Cwsmer yn dymuno defnyddio’r cyfrif hwn eto, bydd gofyn iddo fynd drwy’r broses gofrestru eto.
15. DATA CWSMERIAID A PHOLISI PREIFATRWYDD
15.1 Gall y Cwsmer ddiweddaru ei ddata personol unrhyw bryd ac mor aml ag sy’n ofynnol i sicrhau bod cofnod cywir yn cael ei gadw ar yr Ap Ffôn Clyfar bob amser.
15.2 Os oes gan y Cwsmer reswm dros gredu bod ei ddata defnyddiwr wedi cael ei beryglu neu ei gamddefnyddio, dylai roi gwybod i’r Awdurdod am y ffaith hon ar unwaith.
15.3 Mae’r Awdurdod a darparwr yr Ap Ffôn Clyfar i gyd yn casglu ac yn defnyddio data personol Cwsmeriaid lle mae angen gwneud y canlynol: 1) cyflawni ei rwymedigaethau cytundebol, 2) galluogi cyflawni’r contract rhwng y Cwsmer a’r Awdurdod, 3) i wirio’r wybodaeth a ddarparwyd mewn perthynas â chofrestru’r Ap Ffôn clyfar neu 4) i gyflawni unrhyw ddyletswydd gyfreithiol arall gan yr Awdurdod neu ddarparwr yr Ap Ffôn Clyfar.
15.4 Mae’n rhaid i’r Awdurdod a darparwr yr Ap Ffôn Clyfar ddefnyddio’r data hwnnw yn unol â’r darpariaethau yn y Ddeddfwriaeth Diogelu Data yn unig.
15.5 Bydd gan yr Awdurdod a darparwr yr Ap Ffôn Clyfar hawl i ddatgelu gwybodaeth am y Cwsmer i’r awdurdodau sy’n ymchwilio ac i’r graddau angenrheidiol, yn enwedig cyfeiriad y Cwsmer, pe bai achos yn cael ei gychwyn yn erbyn y Cwsmer am drosedd sifil neu droseddol sy’n ymwneud â’u llogi E-feic o dan y Cytundeb hwn.
15.6 At ddibenion talu, bydd data talu’r Cwsmer yn cael ei gasglu a’i brosesu’n uniongyrchol gan ddarparwr gwasanaeth talu allanol yr Ap Ffôn Clyfar, Stripe Inc., at ddibenion dilysu, gan gynnwys dilysu credyd. Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelu data taliadau’r Cwsmer ar gael ym mholisi preifatrwydd Stripe Inc. Yn dilyn y broses gofrestru, nid yw data taliadau’r Cwsmer bellach yn weladwy i weithwyr yr Awdurdod. Bydd unrhyw ddata am daliadau’r Cwsmer y mae’r Awdurdod yn ei dderbyn gan Stripe Inc. yn cael ei gadw cyhyd ag y bo angen er mwyn cyflawni rhwymedigaethau statudol yr Awdurdod ac unrhyw rwymedigaethau sy’n ddyledus iddo gan y Cwsmer dan y Cytundeb hwn.
15.7 Yn amodol ar gymal 15.6, bydd data personol y Cwsmer sy’n cael ei storio yn yr Ap Ffôn Clyfar yn cael ei gadw am gyfnod o 3 mis ar ôl ei weithgarwch diwethaf ar yr Ap Ffôn Clyfar. Os bydd unrhyw hawliadau’n cael eu gwneud neu os rhagwelir y byddant yn cael eu gwneud mewn cysylltiad â defnydd y Cwsmer o E-feiciau o dan y Cytundeb hwn, mae’n bosibl y bydd cyfnod cadw eu data personol yn cael ei ymestyn nes bydd yr hawliadau wedi’u cwblhau’n llawn er boddhad yr Awdurdod. Ar ôl ei gwblhau, bydd data personol y Cwsmer yn cael ei ddileu ar ôl cyfnod o 3 mis.
15.8 Mae rhagor o wybodaeth am ddefnyddio, gweinyddu a phrosesu gwybodaeth bersonol ar gael yn ein Polisi Preifatrwydd ar-lein.
16. DIM ASEINIAD
16.1 Mae’r Cytundeb hwn yn bersonol i’r Partïon. Ni chaiff y naill Barti na’r llall aseinio, trosglwyddo, morgeisio, codi tâl, is-gontractio, dirprwyo, datgan ymddiriedolaeth na delio mewn unrhyw ffordd arall ag unrhyw un o’i hawliau a’i rhwymedigaethau o dan y Cytundeb hwn.
17. Y CYTUNDEB CYFLAWN
17.1 Mae’r Cytundeb hwn yn cynnwys y cytundeb cyflawn rhwng y partïon ac mae’n diddymu pob cytundeb, addewid, gwarant, gwarantiad, cynrychiolaeth a dealltwriaeth a oedd rhyngddynt yn flaenorol, boed hynny’n ysgrifenedig neu ar lafar, mewn perthynas â’i bwnc.
17.2 Mae pob Parti yn cydnabod, wrth gytuno i’r Cytundeb hwn, na fydd ganddo unrhyw rwymedïau yng nghyswllt unrhyw ddatganiad, cynrychiolaeth, gwarant na gwarantiad (pa un ai a ydynt wedi’u gwneud yn ddiniwed neu’n esgeulus) nad ydynt wedi’u nodi yn y Cytundeb hwn.
17.3 Mae pob Parti yn cytuno na fydd ganddo unrhyw hawliad am gamliwiad diniwed neu esgeulus yn seiliedig ar unrhyw ddatganiad yn y Cytundeb hwn.
18. AMRYWIAD
18.1 Ni fydd unrhyw amrywiad i’r Cytundeb hwn yn dod i rym oni bai ei fod yn ysgrifenedig ac wedi’i lofnodi gan y Partïon (neu eu cynrychiolwyr awdurdodedig).
19. DIM PARTNERIAETH NAC ASIANTAETH
19.1 Ni fwriedir nac ystyrir y bydd unrhyw beth yn y Cytundeb hwn yn sefydlu unrhyw bartneriaeth na menter ar y cyd rhwng unrhyw rai o’r Partïon, gan gynnwys unrhyw Barti, asiant Parti arall, nac yn awdurdodi unrhyw Barti i wneud na llofnodi unrhyw ymrwymiadau ar gyfer unrhyw Barti arall, nac ar eu rhan.
19.2 Mae pob Parti yn cadarnhau ei fod yn gweithredu ar ei ran ei hun ac nid er budd unrhyw un arall.
20. YMADAWIAD
20.1 Os yw unrhyw ddarpariaeth neu ran o ddarpariaeth y Cytundeb hwn yn annilys neu’n dod yn annilys, yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, ystyrir ei bod wedi’i ddileu, ond ni fydd hynny’n effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Cytundeb hwn.
21. AWDURDODAETH A CHYFRAITH SY’N LLYWODRAETHU
21.1 Bydd y Cytundeb hwn, ac unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n deillio ohono neu mewn cysylltiad ag ef, neu ei bwnc neu ei ffurfiad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn ymwneud â chontractau) yn cael eu llywodraethu a’u dehongli yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.
21.2 Mae pob parti yn cytuno’n ddi-droi’n-ôl y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth unigryw i ddatrys unrhyw anghydfod neu hawliad (gan gynnwys anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn ymwneud â chontractau) sy’n deillio o’r cytundeb neu mewn cysylltiad â’r cytundeb neu’r hyn sydd dan sylw ynddo neu ei ffurfiad.