Mae gennym ddiddordeb yn eich barn

Mae gennym ddiddordeb ym marn a safbwyntiau ein cymuned leol ac ymwelwyr. Byddem wir yn gwerthfawrogi eich cymorth i archwilio amrywiaeth o bynciau, i’n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Dewch i gwrdd â thîm y prosiect ddydd Mercher 30 Hydref, 9.30am – 3pm i rannu eich syniadau.

Fel arall, gallwch gymryd rhan mewn arolwg byr trwy glicio ar y ddolen ar y dde neu sganio’r cod QR isod. Ni ddylai’r arolwg gymryd mwy na 5 munud a bydd ar gael tan 11 Tachwedd 2024.

Bydd yr allbynnau’n cael eu defnyddio gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro at ddibenion ymchwil yn unig ac ni fydd unrhyw ddata personol yn cael ei storio.