PELLTER/HYD: 5.7 milltir (9.0 km) 2 awr 30 munud
CLUDIANT CYHOEDDUS: Gwasanaeth bws Trefin 413, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordirol, cerdded ar gopa’r clogwyni, cwm coediog, traciau fferm, caeau a da byw, fe all y llwybrau ceffylau fod yn fwdlyd, fe all fod yn serth mewn mannau, cerdded ar isffyrdd am 1.5 milltir (2.5 km)
CHWILIWCH AM: Pentref pysgota prydferth gyda chychod • olion ydlofft • odynau calch • safle llinell rheilffordd Brunel a adwyd heb ei gorffen • golygfeydd gwych o’r arfordir.
Mae arfordir gogleddol Sir Benfro yn cael amser caled gan y stormydd bob blwyddyn. Mae’n rhan o fywyd ar yr arfordir noeth.
Weithiau, dywedir mai un storom, sef storom 1859, oedd yn gyfrifol am bentyrru’r cloddiau o raean bras yn Aber Mawr ac Aber Bach gerllaw. Mewn gwirionedd, ffurfiwyd y cloddiau mewn ffordd fwy tawel – fe’u gadawyd wrth i lefelau’r môr godi ar ddiwedd Oes yr Iâ.
Fe adawodd y storm ei marc. Collwyd 100 o longau ar y cyfan ac fe suddodd un llong, sef y Charles Holmes, gyda’r holl griw ychydig oddi ar Aber Bach.
Yn Aber Mawr, chwiliwch am adeilad bach a rhoddodd y cildraeth bach ar y map ar un adeg, sef y derfynfa ar gyfer cebl telegraff tanfor cyntaf Môr Iwerydd, a gysylltwyd ym 1873.
Wrth i’r llwybr ar hyd copa’r clogwyni groesi penrhyn Penmorfa edrychwch am Gastell Coch, caer drawiadol sy’n 2,300 mlwydd oed.
Enw arall am Abercastell yw Cwm Badau. Mae mor dawel erbyn hyn ei bod hi’n anodd credu bod y gilfach yn arfer bod yn borthladd prysur. Allforiwyd cynnyrch fferm o Abercastell i Fryste a Lerpwl, a mewnforiwyd carreg galch a glo. Llosgwyd y garreg galch yn odyn galch Abercastell, un o nifer ar hyd yr arfordir. Defnyddiwyd y calch tawdd a gynhyrchai’r odynau ar dir fferm yn Sir Benfro.
Ariannwyd pont lechi yn y gilfach gan Ffrindiau Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro mae yna eiriau wedi eu cerfio ar frig y bont.
Carreg Samson
Gerllaw mae Cromlech Carreg Samson. Fe’i adeiladwyd fel siambr gladdu Neolithig ac, ar un adeg, roedd wedi ei chladdu o dan bentwr o bridd. Nawr, mae’r cerrig cryf a ffurfiai’r siambr fewnol yn cadw’u cydbwysedd eu hunain, gyda’r benllech fawr wedi’i dal gan bileri.
Yn ôl chwedl leol, adeiladwyd y gromlech gan Samson, a gollodd ei fys wrth osod y benllech yn ei lle. Dywedir bod ei fys wedi’i gladdu ar ben uchaf Ynys-y-Castell, sef cilfach wrth fynedfa cildraeth Abercastell.
Dewch o hyd i'r daith hon
Grid ref: SM867336
CYMRWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau