PELLTER: 1.6 milltir (2.6 km)
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Broad Haven 311. Mae gweithredwr Gwasanaeth 400 (Pâl Gwibio) a 404 wedi canslo’r gwasanaeth o Ebrill 5 2023. Yn y cyfamser, mae’r ardal a gwmpesir gan Wasanaeth 400 yn rhan o gynllun Bws Fflecsi Gogledd Sir Benfro (agor mewn ffenestr newydd).
CYMERIAD: Arfordir, caeau a da byw, cwm coediog. Dim sticlau. Giatiau mochyn, grisiau, llwybr cul anwastad mewn mannau.
O’r maes parcio, cymerwch y llwybr drws nesaf i’r Hostel Ieuenctid sydd wedi’i farcio gyda’r geiriau ‘taith goetir’ (woodland walk).
Pasiwch i’r dde i Orsaf Gwylwyr y Glannau a dilynwch yr arwydd am y llwybr cerdded. Dilynwch y llwybr trwy giât mochyn, dros bont fechan ac yn syth ymlaen, gan ddilyn y nant, trwy ail giât mochyn (peidiwch â chroesi’r giât mwy o faint).
Dilynwch y llwybr, sy’n mynd yn fwy llydan ar ôl croesi’r nant. Ar ôl mynd i fyny’r tyle, trowch i’r chwith wrth yr arwyddbost, ewch trwy ddwy giât mochyn a dilynwch y llwybr at yr heol.
Croeswch yr heol a chymerwch y llwybr ychydig i’r chwith ar ochr gyferbyn yr heol. Dilynwch y llwybr wrth ymyl y cae at lwybr yr arfordir a throwch i’r chwith yn ôl i Broad Haven.
Pan fydd y llwybr yn cyrraedd heol, dilynwch y palmant, yna’r heol i lawr. Trowch i’r chwith i fynedfa cerddwyr y maes parcio.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyfeirnod Grid: SM864148
CYMERWCH OFAL!
- Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
- Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
- Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
- Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
- Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
- Cofiwch gau gatiau