Caerfai

Taith Fer

PELLTER/HYD: 2.0 milltir (3.2 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Abergwaun 413 a Hwlffordd 411, *Pâl Gwibio 400, *Celtic Coaster 403, *Strumble Shuttle 404 (*tymhorol, galw a theithio)
CYMERIAD: Arfordirol, ymyl clogwyn, gweddol wastad, 0.6 mile (1 km) cerdded ar isfyrdd
CHWILIWCH AM: Tywodfaen porffor/pinc traeth Caerfai • Capel y Santes Non, y ffynnon sanctaidd, olion capel canoloesol • golygfeydd gwych o’r arfordir • adar y môr • blodau arfordirol yn y gwanwyn a’r haf

Mae tywodfaen Caerfai yn arbennig iawn, rhywle rhwng llwyd a choch pan yn sych ond yn troi’n borffor dwfn pan yn wlyb.

Edrychwch ar y cerrig mân ar draeth bach Caerfai i weld yr effaith wrth i’r llanw ostwng. Nid yw’n syndod bod y garreg hardd hon wedi’i chwarelu o’r clogwyni yn yr ardal hon i’w defnyddio gan y seiri maen a adeiladodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi.

Yn ystod y blynyddoedd diweddar ailagorwyd chwarel yng Nghaerbwdi gerllaw am ychydig, i gael peth o’r cerrig i wneud gwaith adfer yn yr Eglwys Gadeiriol.

Yn St Non’s – a enwyd ar ôl mam Dewi Sant – mae yna adfeilion hen gapel a dywedir mai dyma’r man lle ganwyd Dewi Sant yn ystod gwyntoedd garw. Roedd y capel a’r ffynnon sanctaidd gerllaw yn gyrchfan bwysig i bererinion yn y Canol Oesoedd – yn enwedig ar Ddydd Santes Non ar Fawrth 2.

Ffynnon y Santes Non oedd un o’r ffynhonnau mwyaf sanctaidd yng Nghymru a chredwyd bod dŵr o’r ffynnon hon yn gwella clefydau llygaid.

The ruin of the Chapel of Saint Non, St Davids

Yn sicr, mae’n rhaid bod y ddinas fach a enwyd ar ôl Dewi Sant, gyda’i chadeirlan ac olion palas yr esgob, yn un o’r mannau mwyaf cyfareddol ym Mhrydain.

Sefydlodd Dewi Sant gymuned Gristnogol gynnar ar lan yr Afon Alun yn y 6ed ganrif; tyfodd mewn pwysigrwydd ar ôl ei farwolaeth tua 600OC.

Am ganrifoedd, fe fu pererinion yn teithio i Dyddewi i dalu teyrnged yn ei gysegrfa. Daeth hyd yn oed William Goncwerwr i ymweld yn 1081.

Canoneiddiwyd Dewi yn 1120 pan archddyfarnwyd bod dwy bererindod i’w gysegrfa cystal ag un i Rufain.

Fe ddechreuodd y gwaith adeiladu ar gyfer yr eglwys gadeiriol fawreddog I gymryd lle eglwys fynachaidd gynt yn 1180.

Wrth i chi gerdded, chwliwch am yr adar niferus sy’n ymgartrefu yn y prysg ar gopa’r clogwyni a’r glaswelltir.

Efallai y gwelwch chi’r fran goesgoch, tra bod ehedyddion, melyn yr eithin, pibydd y waun a phibydd y graig yn ychwanegu eu caneuon at harddwch y lle yn y gwanwyn a’r haf.

Dewch o hyd i'r daith hon

Cyfeirnod Grid: SM755244

CYMERWCH OFAL!

  • Byddwch yn ofalus ar Lwybr yr Arfordir
  • Cadwch at y llwybr ac i ffwrdd o ymylon y clogwyni
  • Gwisgwch esgidiau cryfion a dillad cynnes, sy’n dal d ŵr
  • Cymrwch ofal arbennig mewn tywydd gwyntog a/neu wlyb
  • Cadwch lygad barcut ar blant a chwn bob amser
  • Cofiwch gau gatiau