PELLTER/HYD: Cylchdaith llawn 3.3 milltir (5.3 km) 1 awr 45 munud, Cyldaith Carew Newton 1.6 milltir (2.7 km) 1 awr, Cylchdaith Milton 1.7 milltir (2.8 km) 1 awr
CLUDIANT CYHOEDDUS: Bws gwasanaeth Caeriw/Milton 360/361
CYMERIAD: Gwastad, caeau a da byw, 800 m o gerdded ar y ffordd
CHWILIWCH AM: Castell Canoloesol • Pwll y Felin • Eglwys • Melin Gribo
Pwll Melin Caeriw yw un o’r lleoliadau harddaf yn Sir Benfro. Ar ddiwrnod llonydd, pan fydd y llanw’n uchel, mae’r ehangder 23-erw o ddŵr yn adlewyrchu’r Castell a’r Felin gerllaw yn berffaith.
Estynnodd y Normaniaid eu concwest o Loegr i mewn i Gymru ar ddiwedd yr 11eg ganrif gan wneud Castell Penfro yn ganolbwynt i’w teyrnasiad yn Ne Sir Benfro.
Dewisodd cwnstabl Castell Penfro, Gerald de Windsor, adeiladu ei amddiffynfa ei hun yng Nghaeriw, ychydig i fyny’r ddyfrffordd lanwol o Benfro.
Ond nid de Windsor oedd y cyntaf i fyw ar y safle ar lan yr afon. Mae archeolegwyr wedi darganfod arwyddion o anheddiad Oes Haearn yn agos at y Castell yn ogystal â chrochenwaith Rhufeinig.
Fwy na thebyg yr adeiladwyd y castell cyntaf o bridd a phren. Yna, cymerwyd ei le gan gastell o gerrig ac ychwanegwyd ato dros y canrifoedd.
Cymerodd y datblygiad diwethaf le yn yr 16eg ganrif pan ailfodelwyd ochr ogleddol yr adeilad, gan ychwanegu’r ffenestri crand sy’n edrych allan dros lyn y felin.
Roedd melin yng Nghaeriw mor gynnar â 1542. Fwy na thebyg bod yr adeilad presennol yn dyddio o’r 19eg ganrif gynnar ac, yn aml, caiff ei adnabod fel y Felin Ffrengig, o bosib am i feini’r felin ddod o Ffrainc.
Erbyn hyn, mae’r Felin wedi ei hadfer ac yn cael ei gweinyddu gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Fe all ymwelwyr weld arddangosfa barhaol sy’n olrhain hanes y melino.
Yng Nghaeriw, un o’r atgofion mwyaf amlwg o’i orffennol cyn-Normanaidd yw’r Groes Geltaidd drawiadol. Mae gan Sir Benfro dros 100 o gerrig sy’n dyddio o ganrifoedd cyntaf Cristnogaeth a chredir bod croes Caeriw wedi ei chodi fel cofgolofn yn 1035.
Mae’r ardal yn lle gwych i wylio adar. Mae’r llyn yn denu rhydwyr fel pibyddion coesgoch, y gylfinir a phibydd y traeth ac mae yna elyrch yn byw yma hefyd.
Mae’r ddyfrffordd hefyd yn lle gwych i weld ystlumod ar nosweithiau o haf. Mae mwy na hanner y rhywogaethau ystlum a geir ym Mhrydain wedi eu cofnodi yng Nghaeriw.
Dewch o hyd i'r daith hon
Cyferinod Grid: SN045037
COD CEFN GWLAD!
- Mwynhewch y cefn gwlad a pharchu ei fywyd a’i waith
- Gochelwch rhag unrhyw risg o dân • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi'n eu cael nhw
- Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Cadwch at y llwybrau cyhoeddus wrth groesi tir amaethyddol
- Ewch â'ch sbwriel adref gyda chi